Cymru v Ffrainc: 'Cost tocynnau a theithio ar nos Wener yn heriol'

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr Cymru a Ffrainc yn y stadiwm yn 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl miloedd o seddi gwag yn Stadiwm Principality nos Wener wrth i Gymru herio Ffrainc

Mae cyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru wedi dweud mai prisiau tocynnau uchel ac amgylchiadau teithio anodd ar nos Wener sy'n gyfrifol am niferoedd is o gefnogwyr y mae eu disgwyl yn Stadiwm Principality.

Mae miloedd o docynnau yn dal heb eu gwerthu ar wefan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Ffrainc nos Wener.

Wrth siarad ar Radio Wales Breakfast, dywedodd Gareth Davies fod talu £100 am docyn "bron yn amhosib" i'r rhan fwyaf o deuluoedd Cymru, ac y bydd llai yn teithio o Ffrainc ar nos Wener.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cais am sylw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl llefarydd ar ran yr Undeb, mae tua 10,000 o gefnogwyr Ffrainc yn arfer prynu tocynnau yn Stadiwm Principality yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond, dywedon mai tua 2,000 sydd wedi archebu y penwythnos hwn.

'Teithio'n heriol ar nos Wener'

Dywedodd cyn-gadeirydd yr Undeb, Gareth Davies, bod teithio'n anodd ar nos Wener.

"Fel arfer, mae'r Ffrancwyr yn heidio i Gaerdydd mewn niferoedd mawr ond gydag ymrwymiadau gwaith ar nos Wener, mae'n ei gwneud hi'n fwy heriol.

"Os oes 'na 10,000 o docynnau ar gael heno, yna bydd yr Undeb yn siomedig oherwydd Ffrainc yw un o'r gemau mwyaf deniadol adref a bydd hi'n ergyd ariannol."

Wrth ymateb i awgrym y dylai'r prisiau gael ei gostwng, dywedodd Mr Davies y byddai'n "anodd i'r bobl sydd eisoes wedi talu £100, dyna'r broblem".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-gadeirydd URC, Gareth Davies, yn dweud bod cael gêm ar nos Wener yn ei gwneud yn "heriol" i gefnogwyr deithio i Gaerdydd

Mae cael tair gêm gartref yn y bencampwriaeth, fel eleni, yn golygu bod Cymru'n arfer cynnal un gêm ar nos Wener neu brynhawn Sul.

Mae gwledydd eraill yn gwrthod gemau ar nos Wener, ond dywedodd Mr Davies fod "y cyfryngau, yn enwedig teledu, yn talu llawer o arian am yr hawliau felly mae angen gemau arnyn nhw wedi'u gwasgaru ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul".

'Gwahaniaeth mawr gyda phêl-droed'

Yn ôl sawl cefnogwr, pris tocynnau yw'r prif ffactor dros beidio mynd i'r stadiwm i wylio'r gêm.

Mae costau'r tocynnau "yn rhy ddrud" yn ôl Dafydd Glyndwr Jones, ffan rygbi a myfyriwr newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru.

"Dwi'n un o'r rhai sy'n meddwl bod y tocynnau'n rhy ddrud, dros £100 am un gêm ar nos Wener, lle fydd nifer o gefnogwyr yn gorfod cael gwesty hefyd," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.

"Mae'n ddiddorol pan ti'n cymharu gyda pêl-droed, ers y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Belarws, y ddau diwetha', roedd y gost ar gyfer dau docyn i'r gemau yna yn llai na hanner y gost i wylio gêm Chwe Gwlad.

"Mae o'n synnu fi faint o wahaniaeth sydd rhwng costau tocynnau pêl-droed a rygbi."

Ffynhonnell y llun, Dan Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Griffiths yn ffan rygbi ac yn byw yng Nghaerdydd, ond mae'n dweud na fydd yn mynd i'r gêm oherwydd prisiau'r tocynnau

Yn ôl Dan Griffiths, cefnogwr Cymru sy'n byw yng Nghaerdydd, mae'n "siomedig" bod y prisiau mor uchel.

"Gan bo' fi yng Nghaerdydd, bydden i eisie mynd i wylio'r gêm a chael tocynnau ond ie ma'r prisiau rhy ddrud..."

Ond, dywedodd bod awyrgylch gwahanol sy'n apelgar pan fo gêm yn cael ei chynnal ar nos Wener.

"Dwi'n eitha' lico'r ffaith bod y gêm ar nos Wener, mae'n rhoi awyrgylch gwahanol, ma'r bwrlwm yn wahanol yn gwaith er enghraifft, ma pobl yn siarad am biti fe, ma pobl yn falle mynd mas yn syth ar ôl gwaith.

"Ond o ran bobl sydd ddim yn byw yng Nghaerdydd wrth gwrs, dyw lot o bobl ddim yn gallu teithio 'ma, ddim yn gallu gadael gwaith yn gynnar.

'Gobeithio y bydd mwy dod i'r dafarn'

Ond nid pawb sy'n meddwl bod y gemau ar nos Wener yn beth gwael.

Dywedodd Elen Morris, perchennog tafarn Plas Coch yn Y Bala, ei bod yn gobeithio y cawn nhw "lawer mwy" o gwsmeriaid gan "y dylai llai fod yn teithio i Gaerdydd".

Ffynhonnell y llun, Elen Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen Morris yn gobeithio y bydd mwy o gwsmeriaid yn ei thafarn gan y bydd llai yn teithio i Gaerdydd nos Wener

"Dwi'n gobeithio bydd mwy yn dod i'r dafarn heno a bod cael gêm ar nos Wener yn beth da.

"Dan ni wedi bod yn dangos y gemau ar y penwythnosa' ond mae 'na fwy a mwy yn teithio i fynd i weld y gemau yn y blynyddoedd diwetha' - criwiau mawr," dywedodd.

"Dan ni'n paratoi a meddwl - 'o, gemau rygbi, gawn ni fwy o staff mewn, mwy o stoc' - ond dan ni wedyn yn ffeindio bod na griwiau'n mynd i ffwrdd i Gaerdydd a llai yn dod i wylio fo yma.

"Felly gobeithio gawn ni fwy heno 'ma. Bydd llai yn teithio gan bod hi'n nos Wener dwi'n meddwl."

Beth yw barn y chwaraewyr?

Dywedodd capten Cymru, Dan Biggar, fod yn well ganddo chwarae ar brynhawn Sadwrn ond nad yw'n broblem fawr i'r chwaraewyr.

"Os oedd hi lawr i fi, fydden i'n hoffi gweld prynhawn Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Dwi wastad wedi teimlo bod prynhawn Sadwrn yn y Chwe Gwlad yn arbennig ac yn draddodiadol," ychwanegodd.

"Ry'n ni'n dal yn gyffrous am nos Wener yng Nghaerdydd, yn enwedig oherwydd lleoliad y stadiwm, reit yng nghanol y bariau, bwytai a'r awyrgylch 'na."

Ychwanegodd capten Ffrainc, Antoine Dupont, nad oedd chwaraewyr Ffrainc yn poeni am beidio cael stadiwm lawn ac mai "beth sy'n digwydd ar y cae" sy'n bwysig.

"Dy'n ni ddim yn bryderus iawn," dywedodd.

"Ry'n ni'n gobeithio cael rhyw fath o gefnogaeth Ffrengig fel gafon ni yng Nghaeredin, ond y peth pwysicaf yw beth sy'n digwydd ar y cae."