Carcharu dyn am dreisio menyw yng Nghaerdydd yn 1980
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael dedfryd estynedig o 12 mlynedd am dreisio menyw yng Nghaerdydd dros 40 mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth Roland Long, 67, o Nailsea, yng ngogledd Gwlad yr Haf, ymosod ar y fenyw yn ardal Y Rhath yng Nghaerdydd yn 1980.
Drwy gymorth technoleg DNA fe wnaeth Heddlu De Cymru ganfod, maes o law, mai Long oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ac fe gafodd ei arestio yn 2020.
Ddydd Mawrth yn Llys y Goron Casnewydd fe gafodd Roland Long ddedfryd o garchar am 10 mlynedd a dwy flynedd bellach o dan drwydded estynedig.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke fod Long yn ddyn "hynod o beryglus".
Clywodd y llys bod ganddo lu o euogfarnau blaenorol - gan gynnwys cael ei garcharu yn 2021 am ffurfio a chymryd delweddau anweddus o blant.
Dywedodd y fenyw a ddioddefodd yn sgil ymosodiad Long, ac sydd wedi cael yr hawl i fod yn ddienw gydol ei hoes, ei bod "yn hynod o falch" clywed am y ddedfryd ddiweddaraf.
'Ddim yn anghofio'
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen ger bron y llys, dywedodd y fenyw: "Ers i Heddlu De Cymru fod mewn cysylltiad, mae fy mhatrwm cysgu wedi cael ei amharu eto. Mae'r digwyddiad wedi bod ar fy meddwl ac wedi peri loes i mi.
"Dyw e ddim yn rhywbeth ry'ch chi'n anghofio amdano ond mae mynd dros manylion yr hyn ddigwyddodd wedi dod ag erchylltra y digwyddiad yn ôl i mi."
Bydd hi'n ofynnol i Long fod dan glo am o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd yn y carchar ac fe fydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar 17 Awst 1980 ond ni ddarganfuwyd mai Long oedd yn gyfrifol tan 2020.
Fe gafodd ei arestio a'i gyhuddo ond yn wreiddiol fe wadodd gyhuddiad o dreisio. Ym mis Ionawr eleni, fe blediodd yn euog.