Dewin y Pinball: cadw'r gêm arcêd yn fyw o'i sied

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch Andy 'Dreads' o'r Felinheli yn siarad am ei waith a'i angerdd at y gêm Pinball

Ar un cyfnod roedd y peiriant Pinball yn un o'r gemau fwyaf poblogaidd yn y byd.

Os gerddoch i mewn i arcêd yn y 70au doedd dim modd osgoi sŵn y bêl fach arian yn bownsio o un ochr i'r llall a'r goleuadau yn fflachio i gyfeiliant y synau electronig.

Daeth ei gyfnod i ben pan ddaeth oes y gemau fideo yn yr 80au ac er iddi gael atgyfodiad yn y 90au, prin yw eu darganfod y dyddiau hyn.

Er hynny, mae'n ymddangos fod adfywiad wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf ac un sydd yn rhan o hynny ydi Andy 'Dreads' o'r Felinheli, ger Caernarfon.

O'i sied fach brysur ar lannau'r Fenai mae Andy yn gwneud ei fywoliaeth drwy werthu darnau unigryw i'r peiriannau, sydd bellach â gwerth vintage enfawr.

O dan yr enw Judge Dread, a ddaw o'r cymeriad comig 'Judge Dred', mae o wedi gwerthu dros 18 mil o ddarnau ar eBay i Awstralia, America ac Ewrop.

Pynciau cysylltiedig