Arestio chwech yn dilyn ymgyrch gwrth-gyffuriau

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymgyrch gwrth-gyffuriau gan heddluoedd Dyfed Powys a Sir Dorset.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y chwech wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a throseddau gwyngalchu arian.

Daw hyn ar ôl "ymchwiliad hir" yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A gan gangiau troseddol yn ardaloedd Sir Benfro a Dorset.

Cafodd tri eu harestio ddydd Llun.

Mae Shaun Joseph Lucas, 48, o Abergwaun; Leone Joan James, 32 oed o Wdig a Terence James Harrison, 42, o Swanage, Dorset, wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên, ac roedd disgwyl iddynt ymddangos gerbron Ynadon Hwlffordd ddydd Mercher.

Mae dau ddyn, 44 a 29 oed, a menyw, 31 oed, o ardal Dorset yn dal yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ddydd Mawrth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Lewis o Heddlu Dyfed-Powys: "Roedd hon yn ymgyrch sylweddol fel rhan o'n hymrwymiad i ddileu'r perygl sy'n cael ei achosi gan sylweddau anghyfreithlon yn ein cymunedau."

Pynciau cysylltiedig