Y Bencampwriaeth: Peterborough 2-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Capten Peterborough, Oliver Norburn, yn taclo Korey SmithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Capten Peterborough, Oliver Norburn, yn taclo Korey Smith

Noson lwyddiannus oddi cartref oedd hi i'r Elyrch nos Fercher gyda gôl Joel Piroe i ennill y gêm yn ystod amser ychwanegol.

Mewn gêm llawn cyffro, sicrhaodd gôl hwyr Piroe fod Abertawe yn parhau i fod uwchben Caerdydd yn y tabl a rhagor o drafferthion i Peterborough tua'r gwaelod.

Roedd yr Elyrch yn arwain ar yr egwyl diolch i ergyd isel Michael Obafemi. Ond dod yn ôl wnaeth Peterborough wedi hynny.

Ar ôl i Sammie Szmodics ddod â'r tîm cartref yn gyfartal, sgoriodd Jack Marriott eiliadau ar ôl dod oddi ar y fainc gyda 63 munud ar y cloc.

Ond tro Abertawe oedd hi nesa gyda Obafemi yn dod â'r Elyrch yn gyfartal gyda'i ail o'r gêm cyn i Piroe sgorio'i 17eg gôl o'r tymor yn ystod amser ychwanegol.

Mae'r triphwynt yn golygu fod yr Elyrch yn dringo i'r 15fed safle.