Costau byw: Galw ar y canghellor i dorri treth tanwydd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf betrol Shell ar Hadfield Road lle mae tanwydd di-blwm yn costio 175.9c y litr a disel yn costio 193.9c y litr ar 10 Mawrth, 2022 yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Gorsaf betrol Shell yng Nghaerdydd ar 10 Mawrth lle roedd petrol yn costio 175.9c y litr a disel yn costio 193.9c y litr

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i ASau eu plaid yn San Steffan i dorri treth tanwydd yn natganiad y gwanwyn yr wythnos nesaf.

Gyda chynnydd pellach mewn prisiau olew ers y rhyfel yn Wcráin, mae cost petrol a disel wedi codi eto.

Yn ôl Ceidwadwyr yn y Senedd, byddai toriad yn y dreth yn helpu gwarchod cyllidebau teuluoedd.

Mae llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.

Ddydd Mercher nesaf, bydd y canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi datganiad y gwanwyn, sydd yn fath o gyllideb.

Erbyn nos Fercher cododd costau tanwydd i record newydd gyda litr o betrol yn costio 165.40c ar gyfartaledd a 176.76c ar gyfer litr o ddisel.

Dywedodd yr AA fod hynny'n golygu bod cost o lenwi tanc car 55 litr wedi codi, ar gyfartaledd, o £81.73 yng nghanol Chwefror i £90.97 yng nghanol Mawrth.

Er gwaethaf y gostyngiad mewn prisiau olew mae pryderon yn parhau am ddyfodol cyflenwad olew y byd.

Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol wedi rhybuddio am "sioc cyflenwad olew byd-eang" yn sgil y rhyfel a chostau nwyddau uchel.

Mae prisiau petrol yn cynnwys dwy dreth. Mae treth tanwydd, ar hyn o bryd yn 57.95c y litr, gyda TAW o 20% ar ben hynny.

Ni wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig fanylu ar ffigwr penodol, ond galw ar i dreth i gael ei ostwng wrth i brisiau gynyddu.

Dyma'r ail waith mewn pythefnos i aelodau'r blaid yng Nghymru geisio pwyso ar eu cyd-aelodau yn San Steffan.

Yr wythnos diwethaf, fe bleidleisiodd aelodau Torïaidd y Senedd gydag aelodau Llafur a Phlaid Cymru dros alw am fwy o weithredu i ddod â ffoaduriaid Wcráin i'r DU.

Disgrifiad o’r llun,

Mewn gorsaf yng Nglan yr Afon ger Corwen ym mis Mawrth, roedd pris disel yn 174.9c y litr

Dywedodd Peter Fox, llefarydd y blaid ar gyllid: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod datganiad gwanwyn y Canghellor yn rhoi'r cyfle cywir i warchod cyllidebau cynyddol dynn teuluoedd a busnesau, a gallai hyn gael ei wneud gyda thorri treth tanwydd.

"Mae hwn yn ddull cytbwys sy'n rhoi rhywbeth i drethdalwyr a'r Trysorlys ill dau i helpu i oroesi'r gwyntoedd economaidd ôl-bandemig, rhywbeth sydd ei angen arnom yng Nghymru yn fwy nag yn unman ar ôl dau ddegawd o fethiant Llafur i hybu cyflogau."

Dadansoddiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Huw Thomas

Byddai angen i unrhyw doriad i dreth tanwydd fod yn sylweddol os ydym am sylwi ar y gwahaniaeth yn y pympiau.

Er bod cost cyfanwerthu petrol wedi gostwng yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae prisiau wedi parhau i gyrraedd y lefelau uchaf erioed gyda rhai gorsafoedd yn codi £2 y litr.

Os bydd y cynnydd dyddiol mewn prisiau yn parhau, ni fyddai gostwng treth tanwydd o gwpl o geiniogau yn gwneud fawr o wahaniaeth i'r biliau sy'n wynebu teuluoedd a busnesau pan fyddant yn llenwi'r tanc.

Ond y canghellor sydd i bennu tollau a TAW ar danwydd, a gyda phwysau gan wleidyddion a'r cyhoedd, mae'n lifer y gallai gael ei demtio i'w dynnu yn ystod datganiad y gwanwyn.

Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r blaid ddiweddaraf yr wythnos hon i alw am dorri treth tanwydd.

Yn Nhŷ'r Cyffredin fe alwodd yr AS Ceidwadol, Jake Berry, am dorri treth tanwydd, cynnydd yng nghyfraddau milltiredd busnesau a gostyngiad i ddefnyddwyr tanwydd allweddol.

Dywedodd Mr Sunak y byddai'n cadw'r awgrymiadau mewn cof ond bod y gostyngiad mewn prisiau olew yn dangos "anwadalwch y sefyllfa yr ydym yn ei phrofi ar hyn o bryd".

'Dim sicrwydd y bydd yn cael effaith'

Mae'r AA wedi rhybuddio ei bod yn bosib na fyddai torri treth tanwydd yn cael effaith ar y pris i brynwyr.

"Efallai y bydd y canghellor yn teimlo bod torri treth tanwydd yn debygol o gael ei golli yn beth ddylai fod yn ostyngiad cyffredinol ym mhrisiau pympiau," dywedodd Luke Bosdet o'r sefydliad.

Ychwanegodd bod "ffyrdd gwerthwyr o ddod i fyny â syniadau" ar sut i gynyddu prisiau'r pympiau petrol a disel yn golygu "nad oes sicrwydd y byddai gostyngiad mewn treth tanwydd yn cael ei basio 'mlaen yn ei gyfanrwydd i gwsmeriaid".

Mae Gweriniaeth Iwerddon eisoes wedi torri treth tanwydd yn gynharach yr wythnos hon o 20 cent y litr (17ceiniog) ar gyfer petrol a 15 cent (13c) i ddisel, gyda disgwyl i'r gostyngiad barhau tan fis Awst.

Pynciau cysylltiedig