'Cryn bryder' ar drothwy diddymu cyfyngiadau Covid
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi mynegi pryder ynghylch y cynnydd yn achosion Covid-19 wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i ddiddymu'r holl gyfyngiadau sy'n dal mewn grym ddiwedd yr wythnos.
Dywedodd Eluned Morgan bod y sefyllfa'n "newid yn ddyddiol" a bod gweinidogion yn cadw golwg ar ddatblygiadau cyn penderfynu'n derfynol a yw'r amodau'n ddigon ffafriol i godi'r holl ofynion cyfreithion ar 28 Mawrth.
Mae Llywodraeth Yr Alban wedi gohirio dileu'r gofyniad i wisgo mygydau mewn siopau, busnesau lletygarwch ac ar drafnidiaeth gyhoeddus tan ddechrau Ebrill oherwydd cynnydd yng nghyfraddau'r feirws yno.
"Mae e'n achosi pryder i ni bod y nifer sy'n diodde' gyda Covid yn codi," meddai Ms Morgan ar raglen Dros Frecwast.
"Mi fyddwn ni yn cadw golwg ar y sefyllfa rhwng nawr a ddydd Gwener pryd fyddwn ni yn gwneud y penderfyniadau 'na.
"Ond eisoes, y'n ni yn edrych gyda cryn bryder ar y ffordd ma' gymaint o bobl yn diodde' gyda Covid ar hyn o bryd yn ein cymunede ni."
'Y cyhoedd wedi deall y sefyllfa'
Dros y penwythnos fe ddywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobl â symptomau Covid barhau i ynysu a gwisgo mygydau hyd yn oed wedi diddymiad y gofynion cyfreithiol.
Mewn ymateb i awgrym a fyddai pobl yn llai tebygol i wneud hynny, atebodd Ms Morgan bod "y cyhoedd wedi deall y sefyllfa" a "wedi dysgu ymddygiad newydd yn ystod y cyfnod yma".
Ychwanegodd: "Fydd 'na drafodaeth ynghylch ydyn ni mewn sefyllfa i lacio ar hyn o bryd gyda y niferoedd [o achosion Covid] yn cynyddu yn y ffordd maen nhw a'r pwysau ychwanegol, wrth gwrs, ar ein ysbytai ni."
Cymru oedd gwlad olaf y DU i gadarnhau diddymiad holl gyfyngiadau'r pandemig.
Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ar 4 Mawrth mai o 28 Mawrth, pe byddai'r sefyllfa iechyd cyhoeddus "yn parhau i fod yn ffafriol", y bydd:
Dim gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb, ond cyngor swyddogol i'w defnyddio o hyd mewn lleoedd gorlawn;
Gofyniad cyfreithiol i hunan-ynysu yn dod i ben - bydd cyngor i bobl hunan-ynysu os ydyn nhw'n sâl;
Dim gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiad risg Covid penodol a chymryd camau rhesymol;
Bydd y defnydd arferol o brofion PCR ar gyfer y cyhoedd yn dod i ben - profion llif unffordd ar gael ar-lein am ddim yn lle hynny;
Profion PCR yn cael eu targedu ar grwpiau penodol, megis pobl mewn cartrefi gofal, pobl sy'n mynd i'r ysbyty a staff iechyd a gofal, ymhlith eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022