Achosion Covid-19 yn parhau i gynyddu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
masgiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae achosion Covid-19 yn parhau i gynyddu yng Nghymru, yn ôl un o'r prif ffynonellau sydd yna o gadw golwg ar yr haint.

Amcangyfrifir fod un ymhob 25 o bobl wedi cael Covid yn yr wythnos ddiwethaf, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Daw'r ffigyrau o arolwg o brofion swab wythnosol sy'n cymryd miloedd o samplau o gartrefi ledled y wlad.

Roedd gan tua 125,400 o bobl y feirws yn yr wythnos yn gorffen 12 Mawrth, neu 4.13% o'r boblogaeth.

Golygai hynny gynnydd o'r amcangyfrif am yr wythnos flaenorol, sef tua 97,900.

Y grwpiau gyda'r canran uchaf oedd plant dwy oed, ynghyd â phobl 26 a 27 oed (8.3%).

Profion defnyddiol

Y grŵp â'r canran isaf oedd y rhai dros 85 oed, sef 0.7%.

Mae'r amcangyfrif ar gyfer Cymru yn is nag ar gyfer gwledydd eraill y DU.

Yn Lloegr y ffigwr yw un ym mhob 20, gydag un ymhob 14 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'r profion swab yma yn cael eu gweld fel modd defnyddiol a dibynadwy o fonitro'r haint, yn enwedig gyda phrofion torfol yn dechrau cael eu dirwyn i ben o fis Ebrill ymlaen.

Pynciau cysylltiedig