Wyres Gwenallt yn canfod 'trysorau' wrth glirio'r tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae eiddo yn perthyn i un o feirdd enwocaf Cymru wedi'u canfod ar ôl i wyres Gwenallt ddod ar eu traws wrth glirio tŷ ei mam.
Daeth o hyd i bentwr o bethau oedd yn perthyn i Gwenallt, gan gynnwys dyddiaduron, sbectol a sigâr.
Ar Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd ddydd Llun, mae'r eitemau yn cael eu trosglwyddo i Brifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Yr Athro Mererid Hopwood, fod y brifysgol yn cydweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol i ddiogelu'r eitemau.
Y gobaith maes o law ydy cael arddangosfa i'r archif pan fydd yr Hen Goleg yn Aberystwyth yn ailagor.
'Trysorau'
"Yn sicr mae 'na drysorau," meddai'r Athro Hopwood ar Dros Frecwast.
"Mae'r llawysgrifau eu hunain... y nodiadau darlithoedd, y llythyron personol, dyddiadur o'i daith i Gaersalem - taith arweiniodd at gyfansoddi'r gerdd enwog 'Y Coed'...
"Ond hefyd mae 'na greiriau, pethe' fel y bathodyn carchar bu'n ei wisgo, llyfrau oedd ganddo yn Dartmoor yn sgil ei garcharu am fod yn wrthwynebydd cydwybodol, ysgrifbin, potel inc, pen ddelw, sbectol ac o fewn y casyn sbectol hwnnw - UCW Aberystwyth - o'r cyfnod wrth gwrs pan oedd yn gweithio yn yr adran hon."
Ychwanegodd fod wyres y bardd, Elin Gwenallt Jones, hefyd wedi dod o hyd i "sigâr oedd ganddo, heb ei ysmygu" mewn drôr yn ei ddesg.
Roedd yna hefyd gyflwyniadau radio, teyrngedau, ac hyd yn oed opera roc.
Dywedodd Yr Athro Hopwood fod Gwenallt yn "un o'r beirdd hynny oedd yn gallu cyfannu y Gymru wledig a'r Gymru ddiwydiannol".
"Roedd ei gerddi fe'n gignoeth ac mae ei negeseuon e bryd hynny yn gwbl berthnasol heddiw - sut mae angen i ni barchu ein gilydd, yr ecsbloetio sy'n gallu digwydd, a'r elfen Gristnogol, grefyddol."
Ei gobaith yw y bydd "lle teilwng i'r arddangosfa" er mwyn i bobl gael "dysgu mwy am y dyn rhyfeddol hwn."
Pwy oedd Gwenallt?
Ganwyd Gwenallt - neu David James Jones - ym Mhontardawe yn 1899.
Symudodd y teulu yn fuan wedyn i'r Alltwen yng Nghwm Tawe, ac oddi wrth y pentref dur hwnnw y cymerodd ei enw barddol.
Pan gafodd ei alw i'r fyddin cyn sefyll ei arholiad Tystysgrif Uwch, safodd yn wrthwynebydd cydwybodol a threuliodd ddwy flynedd - o Fai 1917 hyd Fai 1919 - yng ngharchardai Wormwood Scrubs a Dartmoor.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1926, ac fe gyhoeddodd pum cyfrol o gerddi: Ysgubau'r Awen (1939), Cnoi Cil (1942), Eples (1951), Gwreiddiau (1959) a Coed (1969) a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw.
Mae cenedlaethau o ddisgyblion ysgol ledled Cymru wedi astudio'i gerddi - 'Y Coed', mae'n debyg, yn fwy na'r un gerdd arall.
Aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1919, ac mewn amser, daeth yn uwch-ddarlithydd yng Ngholeg Aberystwyth, cyn ymddeol yn 1966.
Bu farw yn Ysbyty Aberystwyth 24 Rhagfyr 1968.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2020