Parc Ynni Baglan: Gweinidogion yn colli cais i atal torri pŵer

  • Cyhoeddwyd
Baglan
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd yr orsaf bŵer y gorau i gynhyrchu trydan ym mis Gorffennaf 2020

Mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru wedi colli cais i atal cyflenwadau trydan o hen orsaf bŵer rhag cael eu diffodd.

Dywedodd barnwr Uchel Lys nad oes angen i'r Derbynnydd Swyddogol barhau i gyflenwi trydan i felin bapur leol ym Maglan.

Ond gorchmynnwyd i bŵer ar gyfer gorsafoedd pwmpio lleol a goleuadau stryd barhau am bedair wythnos arall.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau i weithio i sicrhau cysylltiadau newydd i gwsmeriaid y pwerdy cyn gynted â phosib.

Rhoddodd Gorsaf Bŵer Bae Baglan y gorau i gynhyrchu pŵer yn 2020 ond trwy ei gysylltiad â'r Grid Cenedlaethol roedd wedi parhau i gyflenwi pŵer i fusnesau lleol ym Mharc Ynni Baglan, ac ar gyfer gorsafoedd pwmpio cyfagos.

O dan y cynlluniau gwreiddiol roedd disgwyl i bŵer ar y safle gael ei ddiffodd ym mis Ionawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae generaduron wedi eu gosod fel mesur dros dro

Gofynnodd cwnsler cyffredinol Cymru Mick Antoniw, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Dŵr Cymru a chwmni papur Sofidel i'r llys am atal y pŵer rhag cael ei ddiffodd nes bod trefniadau eraill yn eu lle.

O ganlyniad i'r achos llys, cadwodd y derbynnydd swyddogol - a oedd yn gyfrifol am ddiddymu'r busnes - gyflenwadau ymlaen tan fod y camau cyfreithiol wedi'u cwblhau.

Roedden nhw wedi rhybuddio am lifogydd a charthion yn gollwng i'r môr pe bai gorsafoedd pwmpio sy'n cael eu rhedeg gan Dŵr Cymru a'r cyngor yn colli pŵer.

Dadleuodd cyfreithwyr fod cau cyflenwadau i lawr yn bygwth hawliau dynol aelodau'r cyhoedd sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

Ni allai Llywodraeth Cymru, fel corff cyhoeddus, wneud hawliad o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Wrth wrthod y cais, dywedodd y Barnwr Syr Alistair Norris na allai'r cyngor wneud hynny chwaith.

Gorchmynnodd y barnwr i'r derbynnydd swyddogol barhau i gyflenwi Dŵr Cymru a chyfleusterau'r cyngor tan 18 Ebrill.

Penbleth i gyflogwr dros 300 o bobl

Roedd y derbynnydd swyddogol wedi dadlau nad oedd ganddyn nhw'r pŵer i barhau i gyflenwi trydan i unrhyw un unwaith nad oedd ei angen bellach er mwyn cau'r gwaith.

Ond dadleuodd y dyfarniad fod pwerau'r derbynnydd swyddogol yn ymestyn i osgoi difrod amgylcheddol.

Cadarnhaodd y barnwr y penderfyniad i ddatgysylltu Sofidel.

Mae'r penderfyniad yn golygu y byddai angen cyflenwadau amgen ar gyfer y felin bapur, sy'n cyflogi 328 o bobl.

Mae fferm generadur disel wedi'i gosod yn y ffatri, er bod pryderon am allyriadau lleol.

Mae Welsh Power Distribution wedi dweud y byddai cyflenwadau ar gyfer y cyngor a Dŵr Cymru yn eu lle erbyn 19 Awst 2022, ac ar gyfer Sofidel erbyn 30 Medi - er dywedwyd bod WPD yn ffyddiog y gallai gwaith gael ei gwblhau gryn dipyn yn gynt.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau i weithio i sicrhau cysylltiadau newydd i gwsmeriaid y pwerdy cyn gynted â phosib.

"Rydym wedi derbyn y penderfyniad ac rydym yn y broses o ddeall y goblygiadau llawn."