Angen 'undod' y pandemig dros 12 mis heriol i ddod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Daeth pobl ynghyd yn ystod y pandemig, ac fe fyddan nhw'n gwneud eto, meddai Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Daeth pobl ynghyd yn ystod y pandemig, ac fe fyddan nhw'n gwneud eto, meddai Mark Drakeford

Bydd pobl Cymru yn sefyll ochr yn ochr gyda'i gilydd er mwyn wynebu'r argyfwng costau byw fel wnaethon nhw yn ystod y pandemig, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r cyfnod clo cyntaf, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn edmygu'r "undod" a ddangoswyd.

Mae'r achlysur yn cael ei goffáu wrth i ryfel barhau yn Wcráin, ac wrth i gostau byw cynyddol fygwth safonau byw ym Mhrydain.

"Mae'r flwyddyn i ddod yn mynd i fod yn flwyddyn heriol iawn i lawer o bobl," meddai'r prif weinidog mewn cyfweliad â BBC Cymru.

"Pan edrychaf yn ôl ar yr argyfwng coronafeirws yn ogystal â thristwch aruthrol am y bobl sydd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol ganddo, rwy' hefyd yn edmygu'r ffordd yr ymatebodd pobl yng Nghymru iddo."

Dywedodd bod pobl wedi dangos "undod cymdeithasol", gan ychwanegu: "Rwy'n credu y byddwn yn gweld yr un nodwedd yn cael ei pharatoi i wynebu heriau'r 12 mis nesaf."

Yr wythnos hon, bydd ei gabinet yn penderfynu a ddylid dileu rheolau ar wisgo mygydau a hunan-ynysu.

Roedd cyfyngiadau olaf Cymru i fod i ddod i ben ar 28 Mawrth, ond gydag achosion yn codi unwaith eto, dywedodd Mr Drakeford fod y llywodraeth yn dal i ystyried sawl opsiwn. Mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud ddydd Iau.

Roedd llywodraethau Cymru a'r Alban wedi galw ar Lywodraeth y DU i barhau i ariannu profi torfol, ond mae disgwyl i hynny ddod i ben yn Lloegr ym mis Ebrill.

Bydd profion llif unffordd yn parhau i fod ar gael am ddim yng Nghymru tan fis Mehefin. Byddai mynd y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw yn tynnu arian allan o wasanaethau eraill, meddai Mr Drakeford.

Ond fe ddywedodd ei fod yn "wirioneddol bryderus" bod llacio rheolau ar deithio rhyngwladol a diffyg profi "yn ein gadael yn agored" i fethu a rhagweld tonnau eraill o heintiau.

Amddiffynnodd Mr Drakeford ei feirniadaeth o'r ffordd y mae llywodraeth Boris Johnson wedi ymdrin â'r coronafeirws, er gwaethaf astudiaethau'n dangos bod Cymru a Lloegr wedi dioddef lefelau tebyg o farwolaethau ychwanegol - nifer y bobl a fu farw yn ychwanegol i'r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dolen allanol ddydd Mawrth, roedd y lefel yn is yng Nghymru na Lloegr.

Ond fe ddywedodd astudiaeth ryngwladol, dolen allanol, a gyhoeddwyd y mis hwn, fod Lloegr wedi gwneud ychydig yn well.