Dwy flynedd mewn pandemig: Profiad un pentref
- Cyhoeddwyd
Ym mis Medi 2020, i nodi chwe mis ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf, holodd Cymru Fyw trigolion pentref yn y gogledd i weld sut oedd Covid wedi effeithio un gymuned.
Nawr, ddwy flynedd ers dechrau'r pandemig, mae'r un bobl o'r Felinheli, ger Caernarfon, yn rhannu eu profiad.
'Mae bywyd yn frwnt weithia'
Mae Maldwyn Jones yn gwybod yn iawn be' ydi 'byw efo Covid'. Ac yntau'n diodde' o Covid hir, roedd yn paratoi i nodi dwy flynedd ers colli ei wraig i'r feirws pan ddechreuodd gael trafferth anadlu unwaith eto, ar ôl dal yr haint am yr ail waith.
Fis Mawrth 2020 roedd o a Heather yn wael iawn gyda'r feirws. Ar 16 Ebrill, gyda'i wraig yn yr ysbyty roedd Maldwyn yn dirywio ac yn poeni am eu mab David, 49 ar y pryd, oedd angen eu gofal oherwydd anableddau dysgu.
"Ro'n i'n wirioneddol wael ac mor giami roedd y twrna yma a ro'n i'n gwneud yr ewyllys drwy'r ffenest a'i wraig efo fo fel witness," meddai. "Roedd y paramedics wedi bod yma bob yn ail noson a ro'n i'n meddwl bod fy number i fyny - wna'i byth anghofio."
Y noson honno bu farw ei wraig, yn 82 oed.
Wrth drafod yr effaith arno ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n gwingo o'r boen sy'n ei fraich a'i ysgwydd.
"Dwi mewn poen a dwi'n blino yn ofnadwy," meddai. "Dwi wedi bod yn smwddio a hwfro heddiw - a dwi'n absolutely knackered.
"Dwi'n cael trafferth cysgu hefyd. Dwi wedi cael trafferth o'r blaen cyn Covid ond dwi'n ddeg gwaith gwaeth rŵan.
"Un noson wsnos dwytha neshi ddim cymryd tablet a neshi ddim cysgu o gwbl drwy'r nos. Ro'n i'n sâl fel ci yn y bore. Mae'n tynnu chi lawr cymaint - mae o jest yn torri calon rhywun, mae o'n goblyn o beth."
Mae cryd cymalau, blinder ac effaith ar gwsg i gyd yn symptomau sydd wedi eu cysylltu gyda Covid-19 a gwyddonwyr yn ymchwilio i gysylltiad posib.
Pan ddaliodd o'r feirws eto fis Mawrth eleni, roedd yn fyr ei wynt ac yn pryderu, ond mae'n diolch i'r brechiad nad aeth o ddim gwaeth.
Mae o'n synnu ei fod wedi ei ddal eilwaith gan ei fod yn ofalus iawn a dim ond yn gweld teulu agos ac ambell i ffrind. Mae'n ofni i'r ffigurau godi.
"Ro'n i'n gwylio'r darts ar y television diwrnod o'r blaen, argol roedd 'na tua 2000 o bobl mewn un stafell mawr.
"Codi neith y ffigurau yn ôl. S'na ddim isio slacio dim de."
Wrth i ddyddiad marwolaeth Heather ddod yn nes mae'n cydnabod y bydd yn gyfnod anodd iddo fo a'i fab.
"Neith David siarad lot am y peth pan neith hi ddod yn agos at y dyddiad - mae o'n ofnadwy fel yna, yn cofio pen-blwydd pawb, mae o efo cof dychrynllyd o dda.
"Yr art ydi tynnu ei feddwl i ffwrdd oddi arno fo, siarad am ffwtbol a phethau mae o yn licio.
"Mae David dal i gael trafferth. Mae o dal yn ei cholli hi ac mae ganddo fo luniau ohoni.
"Mae bywyd yn frwnt weithia, ond 'da ni'n lwcus i gymharu efo llefydd eraill."
'Dwi wedi ailddarganfod rhywbeth o'n i'n garu - stand-yp'
Fe wnaeth Covid orfodi Katie Gill-Williams i asesu beth oedd yn bwysig iddi, felly caeodd ei busnes er mwyn canolbwyntio ar deulu, dysgu Cymraeg a stand-yp. Nawr mae hi'n siarad yr iaith ar ei sianel YouTube ac yn paratoi i berfformio yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth.
"Pan dwi'n edrych nôl dros y ddwy flynedd, mae mywyd i wedi troi 360," meddai.
Ar ddechrau 2020 roedd y fam i ddau o blant yn brysur yn paratoi at ei phriodas fis Mai, gweithio mewn swydd 9-5 ac yn rhedeg busnes ffrogiau priodas gyda'r nosau ac ar benwythnosau. Oherwydd Covid aeth popeth ar chwâl gan greu straen - ond hefyd amser.
Rhoddodd Katie, sy'n wreiddiol o Lannau Merswy, her i'w hun i wella ei Chymraeg a recordio'i hun yn siarad yr iaith am funud gyfan a'i roi ar Instagram - unwaith y dydd am flwyddyn gyfan.
Un oedd yn hoffi'r fideos oedd y gomedïwraig o Fôn Kiri Pritchard-McLean, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg, ac o fewn dim roedd y ddwy wedi creu sianel Welsh Wednesdays lle maen nhw'n yn sgwrsio am Gymru, a cheisio siarad Cymraeg gyda'i gilydd.
"'Da ni wedi trafod annibyniaeth i Gymru, y Welsh Not, Twin Town, Santes Dwynwen, bob math o bethau," meddai.
"Dwi wrth fy modd yn siarad Cymraeg ac yn meddwl bod o'n bwysig. Dwi rili isio ennill Dysgwr y Flwyddyn rŵan!"
Tra bod y ddwy yn annog ei gilydd i siarad Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'r comedïwr proffesiynol wedi annog Katie i gymryd cam dewr arall - ailafael mewn gwneud stand-yp, rhywbeth y rhoddodd hi'r gorau arni ar ôl noson drychinebus o wael pan oedd hi yn y coleg.
A mis Tachwedd 2021, gyda'i Mam yn wael, penderfynodd bod ganddi ormod ar ei phlât a bod yn rhaid i rywbeth fynd cyn i'w hiechyd ddioddef a chaeodd y busnes.
"Ar ôl y cyfnodau clo roedd yr hen habits yn dod 'nôl, a rhywun efo llai o amser - do'n i methu cael bwyd efo'r teulu achos roedd yna apwyntiad gyda'r nos yn y siop. Dwi mor hapus mod i wedi gwneud y penderfyniad.
"Felly un o'r pethau mwya' sydd wedi digwydd rŵan ydi ailddarganfod rhywbeth o'n i'n caru - stand-yp a jyst mynd amdani a meddwl 'os ydi pethau ddim yn gweithio, 'whatever, mae 'na bethau gwaeth wedi bod yn digwydd a tydi o ddim mor ofnus â rheiny'."
Mae hi rŵan yn paratoi i gamu ar y llwyfan ym Machynlleth fis Ebrill ac yn perfformio a threfnu noson gomedi fisol yng nghanolfan y SHED yn Y Felinheli, gyda rhai pobl ddaeth hi'n agosach atyn nhw yn ystod y cyfnod clo.
"Heb y pandemig, fyddan ni wedi gwneud hynny neu jest cario mlaen efo'n bywydau prysur?"
'Mae wedi chwalu cymuned yr ysgol'
Tydi dirprwy Ysgol y Felinheli ddim yn or-bryderus erbyn heddiw am effaith y pandemig ar addysg plant - eu hiechyd a lles ac ailadeiladu cymuned yr ysgol ydi'r sialens fwya' rŵan.
Blwyddyn ers dychwelyd i'r ysgol wedi'r cyfnod clo diwetha', mae'r cyswllt dyddiol yn dwyn ffrwyth gan fod plant yn dal i fyny mor sydyn ond mae pethau eraill yn bell o fod yn 'normal'.
Dydy'r ysgol gyfan dal methu dod at ei gilydd am wasanaeth neu gyngerdd, a'r teimlad o berthyn yn gwanio.
"Mae 'na fwlch enfawr wedi bod rhwng yr ysgol a rhieni," meddai Sioned Jones. "Does 'na ddim nosweithiau' rhieni, does 'na ddim ffeiriau, does 'na ddim cyngherddau. Tydan ni ddim hyd yn oed yn cael mynd yn agos at rieni wrth y giât.
"Mae hynny wedi chwalu cymuned ysgol, a fanna 'da ni angen symud ymlaen rŵan. Munud gawn ni'r ok i wneud pethau fel noson rhieni, fyddwn ni'n gwneud hynny."
Mae'r ysgol wedi wynebu sialensiau eraill dros y flwyddyn - diffyg staffio oherwydd y pandemig, arfer gyda rheolau oedd yn newid yn aml a diffyg lle mewn ysgol sy'n fychan o ystyried y nifer o blant.
"Ers dod 'nôl does 'na ddim stafell athrawon yma achos roedd yr un oedd genon ni yn rhy fach i'w defnyddio a chadw at y rheol dau fetr," meddai. "Mae wedi bod yn andros o anodd i ni o ran iechyd meddwl staff - ti angen y lle amser cinio i fynd i ffwrdd o dy ddosbarth a switch off."
Ond mae hi'n obeithiol am y dyfodol wrth i wahanol adrannau ddechrau cymysgu a digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd ar y gorwel. Un peth mae hi eisiau osgoi ydi mynd nôl i'r sefyllfa ar ddechrau'r pandemig.
"Fydd plant ddim ar ei hôl hi yn ieithyddol neu'n rhifyddol ond fwy yn gymdeithasol os dydi nhw ddim yn cymysgu a siarad efo'i gilydd," meddai. "Mae sbïo'n ôl rŵan a meddwl bod y plant wedi bod adra, yn aros yn y tŷ heb weld neb yn fy nychryn i."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022