Gêm ail gyfle Cwpan y Byd Qatar 2022: Cymru 2-1 Awstria

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y dathlu wedi i Gareth Bale sgorio i Gymru wedi 24 munud

Mae Cymru gam mawr yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 wedi i'r capten Gareth Bale sgorio dwy gôl i guro Awstria.

Mae'n golygu bod Cymru bellach ond angen un fuddugoliaeth arall i sicrhau eu lle ym mhrif gystadleuaeth pêl-droed rhyngwladol.

Bale oedd yr arwr unwaith eto yn Stadiwm Dinas Caerdydd gan rwydo o gic rydd yn yr hanner cyntaf ac eto yn gynnar yn yr ail hanner.

Roedd gôl i'r ymwelwyr hefyd drwy Marcel Sabitzer ond doedd yr ymwelwyr methu darganfod gôl arall wrth i Gymru amddiffyn yn gryf.

Dyma oedd profiad cyntaf Cymru o gemau ail gyfle Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd, ac fe fydd y sylw nawr yn troi at y gêm hollbwysig yn erbyn Yr Alban neu Wcráin ym mis Mehefin.

Ffynhonnell y llun, FAW

Roedd Cymru yn benderfynol o'r dechrau wrth i Connor Roberts ac ergyd Dan James bwyso ar yr ymwelwyr.

Ond roedd Awstria yn gadarn hefyd ac o fewn pum munud roedd Christoph Baumgartner yn anelu at y gôl, ond fe darodd y bêl y bar.

Fe ddaeth y cyffro mawr wedi 24 munud wrth i'r capten Gareth Bale sicrhau cic rydd berffaith i gornel ucha'r rhwyd i roi Cymru ar y blaen.

Wedi 40 munud roedd yna fwy o bwysau gan Gymru drwy Aaron Ramsey ond roedd ei ergyd yn rhy lydan.

Cyn yr egwyl daeth hanner cyfle arall i'r tîm cartref ond fe gafodd Aaron Ramsey ei daclo yn ddamweiniol gan Dan James.

Y sgôr ar yr egwyl 1-0 gyda'r sylwebyddion yn dweud bod gôl Gareth Bale yn "anhygoel".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pob sylwebydd yn credu bod gôl Gareth Bale yn "anhygoel"

Roedd Robert Page wedi cyhoeddi carfan gref ar gyfer gêm nos Iau ond nid oedd Danny Ward, Kieffer Moore, Tyler Roberts a Joe Morrell ar gael.

Doedd yna ddim newidiadau ar ddechrau'r ail hanner, a Chymru ddaeth allan yn gyntaf i'r cae, ond Awstria oedd yn ymddangos gryfaf yn y munudau cyntaf.

O fewn pum munud roedd yna gic gornel i Gymru ac roedd y cefnogwyr ar dân unwaith yn rhagor wrth i Gareth Bale droi a tharo pêl rydd heibio Heinz Linder.

Cafwyd sawl ymgais arall gan Gymru yn yr ail hanner, a sawl cyfle i Daniel James sicrhau'r fuddugoliaeth, ond doedd Cymru methu manteisio.

Wedi 64 munud fe wnaeth ergyd Marcel Sabitzer wyro mewn i'r rhwyd oddi ar Ben Davies i wneud y sgôr yn 2-1, a dyna oedd y sgôr terfynol wedi cryn densiwn yn y munudau olaf.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ian Rush MBE

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ian Rush MBE

Cyn dechrau'r gêm roedd cryn gyffro gyda chefnogwyr y cochion i'w clywed yn gweiddi o bell ac mewn stadiwm lawn roedd yna gyfle hefyd i glywed Dafydd Iwan yn canu 'Yma o Hyd'.

Bydd Cymru yn cwrdd nesaf â'r Alban neu Wcráin fis Mehefin, wedi i'w gêm gynderfynol nhw gael ei gohirio yn dilyn ymosodiad Rwsia.