Gêm ail gyfle Cwpan y Byd Cymru ac Awstria yn 'enfawr'
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n herio Awstria mewn gêm "enfawr" nos Iau, wrth i'r crysau cochion geisio cymryd cam mawr yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Dyma fydd profiad cyntaf Cymru o gemau ail gyfle Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd.
Rownd gynderfynol yw hon, gyda'r gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45 nos Iau.
Bydd yr enillwyr yn cwrdd â'r Alban neu Wcráin fis Mehefin, wedi i'w gêm gynderfynol nhw gael ei gohirio yn dilyn ymosodiad Rwsia.
Rheswm i fod yn obeithiol?
Mae Robert Page wedi cyhoeddi carfan gref, ond mae ambell i chwaraewr amlwg ar goll hefyd.
Y rheiny ydy'r golwr Danny Ward a'r ymosodwyr Kieffer Moore a Tyler Roberts sydd ddim ar gael oherwydd anafiadau.
Ond rheswm i fod yn obeithiol, gyda nifer o aelodau ifanc y garfan fel Neco Williams a Harry Wilson yn chwarae'n dda ac yn rheolaidd, ac ambell un o'r sêr hŷn fel Aaron Ramsey yn creu argraff i'w glwb newydd hefyd.
Un pryder posib yw Gareth Bale. Dim ond dwy gêm mae wedi chwarae dros Real Madrid ers i Gymru chwarae ddiwethaf 'nôl ym mis Tachwedd.
Er iddo golli gêm ddiwethaf Real Madrid gydag anaf i'w gefn, mae'r garfan a'r tîm hyfforddi yn dweud ei fod yn edrych yn ffit ac yn siarp ar y maes ymarfer.
I gefnogwyr brwd fel Ffion Eluned Owen, mae'r teimladau'n gymysgedd o gyffro a nerfusrwydd am y gêm hirddisgwyliedig.
"Dwi'n teimlo bach o bob dim ar y funud. Mae 'na excitement bod o actually wedi cyrraedd - oeddan ni'n gwybod ers Tachwedd 2020 pan 'naethon ni ennill y grŵp Cynghrair y Cenhedloedd bod 'na siawns go dda ein bod ni'n mynd i gael gêm ail gyfle, a mwya' sydyn ma' hi yma," meddai.
"Ond nerfus hefyd - mae hi'n achlysur enfawr.
"'Da ni 'di profi'r llwyddiant Ewropeaidd 'na ond mae'r cam ychwanegol 'na o gyrraedd Cwpan y Byd ar lefel gymaint yn fwy, i'r tîm a be' fysa'n gallu gwneud i ni fel gwlad.
"Dydi hi ddim am fod yn hawdd, ond mi fydd 'na dros 30,000 o gefnogwyr yn y stadiwm ac mi fydd yr awyrgylch yn drydanol.
"'Da ni 'di profi nosweithiau anhygoel yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a ti jyst yn gobeithio bod nos Iau yn un arall o'r nosweithia' hynny."
Oherwydd bod y rownd gynderfynol arall rhwng Yr Alban a Wcráin wedi'i gohirio, gêm gyfeillgar sydd gan Gymru nos Fawrth, a hynny yn erbyn un ai'r Albanwyr, Gweriniaeth Tsiec neu Sweden, yn ddibynnol ar ganlyniad Cymru a chanlyniadau eraill.
Mae hynny'n golygu y gall Cymru roi ei holl sylw ar y gêm yn erbyn Awstria, heb orfod poeni am gadw chwaraewyr yn ffit ar gyfer y gêm nos Fawrth.
Dadansoddiad gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Dafydd Pritchard
Mae'n gêm enfawr - dyw Cymru heb fod yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd ers 1958, felly dyna syniad i ni gyd pa mor fawr yw'r gêm.
Ond rwy'n credu, ar achlysuron fel hyn, mae'n gallu helpu fod cymaint o chwaraewyr ifanc yn y garfan.
Dydyn nhw ddim yn meddwl am y gorffennol.
Dyw'r pwysau ddim yn effeithio arnyn nhw yn yr un ffordd ag efallai mae e arnom ni yn y cyfryngau neu'r cefnogwyr.
Un pwt diddorol efallai yw'r ffaith fod Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen i gyd yn eu 30au erbyn hyn, felly falle mai dyma eu cyfle olaf nhw i gyrraedd Cwpan y Byd.
Ond i chwaraewyr ifanc fel Neco Williams a Brennan Johnson, maen nhw'n dweud eu bod nhw yr un mor benderfynol i gyrraedd Cwpan y Byd â'r chwaraewyr hŷn.
Mae'r garfan, ar y cyfan, i weld mewn cyflwr da.
Be sy'n codi calon ydy fod chwaraewyr fel Neco Williams yn chwarae yn gyson nawr ar fenthyg yn Fulham, ac mae'n chwarae'n wych - yn sgorio goliau, yn creu goliau.
Dyna sydd wedi bod yn broblem i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, bod y chwaraewyr ddim yn chwarae'n rheolaidd i'w clybiau.
Ond hyd yn oed i'r rheiny sydd ddim yn chwarae'n gyson, mae'r ffaith eu bod nhw'n chwarae dim ond un gêm gystadleuol yn y ffenestr yma yn sicr yn hwb i Gymru.
Oherwydd bod y rownd gynderfynol arall rhwng Yr Alban a Wcráin wedi'i gohirio, gêm gyfeillgar sydd gan Gymru nos Fawrth, a hynny yn erbyn un ai'r Albanwyr, Gweriniaeth Tsiec neu Sweden, yn ddibynnol ar ganlyniad Cymru a chanlyniadau eraill.
Mae hynny'n golygu y gall Cymru roi ei holl sylw ar y gêm yn erbyn Awstria, heb orfod poeni am gadw chwaraewyr yn ffit ar gyfer y gêm nos Fawrth.
Yn ôl cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones, mae'r garfan i'w weld yn hyderus, ac mae rheswm da dros obeithio am y gorau nos Iau.
"'Da ni'n cael yr argraff bod hwn yn dîm sy'n barod - eu bod nhw ddim efallai'n teimlo'r nerfusrwydd fysa timau Cymru wedi'i deimlo mewn gemau mor bwysig flynyddoedd yn ôl.
"Mae 'na ryw arrogance, mewn ffordd neis, amdanyn nhw," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"'Da ni'n cael y teimlad eu bod nhw'n barod amdani ond 'da chi dal yn gorfod mynd allan a pherfformio.
"Mae'r ffaith bod gennym ni record gartref mor dda - dwi'n meddwl, ers y golled yn erbyn Iwerddon yn 2017 dim ond un gêm gartref gystadleuol 'da ni wedi'i cholli - pam ddim bod yn hyderus?"
Sut dîm ydy Awstria?
Mae Awstria 10 safle yn is na Chymru yn netholion y byd - 30 o'i gymharu ag 20fed safle Cymru - a doedd eu hymgyrch i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd ddim yn un gref, gan orffen yn bedwerydd yn eu grŵp rhagbrofol tu ôl i Ddenmarc, Yr Alban ac Israel.
Sicrhau lle yn y gemau ail gyfle oherwydd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd wnaeth Awstria, ond gydag enwau cyfarwydd fel David Alaba a Marko Arnautović, maen nhw yn dîm cystadleuol.
Mae gan Gymru record dda yn erbyn Awstria dros y degawd diwethaf hefyd, gan ennill dwy a chael un gêm gyfartal yn y tair gêm ers 2013.
Y diweddaraf o'r rheiny oedd buddugoliaeth o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Medi 2017, pan sgoriodd Ben Woodburn ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf.
Ychwanegodd Ffion fod dyfnder y garfan yn golygu fod opsiynau gan Page, ac er bod pryderon efallai am Bale, ei fod wastad yn rhoi ei orau i'r tîm cenedlaethol.
"Ma' wastad yn bryder pan dydy dy chwaraewyr ddim yn chwarae, yn cael munudau, ond hefyd ti'n gw'bod - yn enwedig efo Bale - mae o'n rhoi 100% i Gymru, a Ramsey yr un peth.
"'Da ni'n ymddiried ynddyn nhw pan maen nhw'n chwarae i Gymru, dim ots be ydi'u form nhw i'w clybiau - yn enwedig ar achlysur mor fawr â hon.
"Ond mae o'n gwneud i chdi deimlo'n obeithiol pan ti'n gweld Wilson a Neco yn chwarae mor dda yn Fulham.
"Mae gena ni'n chwaraewyr ifanc dawnus 'ma, a ma' gena ni hefyd y chwaraewyr profiadol - mae'n gymysgedd dda iawn ar hyn o bryd.
"Ma' gena ni ddyfnder erbyn hyn yn y garfan, sydd efallai ddim wedi bod mewn blynyddoedd cynt - lot o gyfuniadau gwahanol 'sa ni'n gallu defnyddio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022