Wayne Hennessey i ennill 100fed cap dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Wayne Hennessey fydd capten Cymru nos Fawrth wrth iddo ennill ei 100fed cap yn y gêm gyfeillgar yn erbyn y Weriniaeth Siec yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Y golwr, 35, fydd un o'r ychydig chwaraewyr fydd yn cadw eu lle yn y tîm ar ôl y fuddugoliaeth yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd dros Awstria.
Mae disgwyl i'r rheolwr Robert Page roi gorffwys i rai fel y capten arferol Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen.
"Mae'r gêm bwysig i ni wedi'i chwblhau. Diolch byth fe gawson ni'r canlyniad positif," meddai Page.
Wrth gyfeirio at garreg filltir Hennessey, ychwanegodd Page: "Mae'n wir arwr i'r tîm pêl-droed yma.
"Am yr hyn y mae wedi ei roi i'r wlad dros y blynyddoedd, mae'n haeddu pob clod y mae'n ei gael."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd yr elw o'r gêm yn erbyn y Sieciaid yn mynd tuag at Apêl Ddyngarol Pwyllgor Argyfwng Wcráin. Bydd chwaraewyr Cymru hefyd yn gwneud cyfraniad.
Roedd Cymru i fod i chwarae'r Alban neu Wcráin ddydd Mawrth am le yng Nghwpan y Byd, ond mae honno wedi'i gohirio oherwydd goresgyniad Rwsia.
Bydd Cymru yn cwrdd ag enillydd y gêm honno - o bosib ym mis Mehefin - gyda lle yng Nghwpan y Byd Qatar 2022 yn y fantol.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Pennaeth Cyfathrebu'r Gymdeithas, Ian Gwyn Hughes, y byddai disgwyl i drefniadau'r gêm dyngedfennol honno ddod yn gliriach yn y bythefnos nesaf.
Hennessey fydd y chweched chwaraewr i gyrraedd y 100 rhwng tîm y dynion a merched Cymru pan fydd yn camu ar y maes yn ddiweddarach.
Am gyfraniad Hennessey, ychwanegodd Mr Gwyn Hughes: "Mae o'n gymeriad hoffus - dyna un peth am Wayne.
"Mae o'n boblogaidd aruthrol o fewn y garfan ac wrth gwrs mae'n ffrindiau mawr 'efo Gareth [Bale].
"Mae ei gyfraniad o ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn aruthrol."
'Perthynas chwaraewyr a chefnogwyr yn wych'
Mae llawer o sylw wedi'i roi i'r awyrgylch yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn ac yn ystod y gêm yn erbyn Awstria nos Iau ddiwethaf - ac mae'r cyfan yn ffrwyth llafur blynyddoedd o waith tu ôl y llen.
"Mae llwyddiant ar y cae yn amlwg yn helpu," meddai Mr Gwyn Hughes, "ond yn y dyddiau cynnar oeddet ti'n plannu hadau.
"Ti'n edrych yn ôl i gyfnod Gary Speed a Chris Coleman [fel rheolwyr] yn mynd o gwmpas Cymru a trio dangos bod ti'n berthnasol i fywyd bob dydd Cymru a plannu hadau am hunaniaeth a chreu perthynas rhwng y bechgyn a'r cefnogwyr.
"Roedd Euro 2016 yn rhywbeth gwych ac mae hynny wedi parhau, ac mae'r berthynas rhwng y chwaraewyr a'r cefnogwyr rŵan yn wych ac wrth gwrs mae'r cefnogwyr hefyd wedi datblygu'r diwylliant yna - a ddaru hynny ddod i ben nos Iau ddiwetha'."
Mae Cymru'n ddiguro mewn wyth gêm ym mhob cystadleuaeth (ennill pedair a phedair yn gyfartal) - nid ydynt wedi bod ar rediad hirach ers mis Hydref 2017 (naw).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022