Yma o Hyd: Y stori tu ôl i'r gân aeth yn feiral
- Cyhoeddwyd
Bu ymateb rhyfeddol gan y Wal Goch - a'r cyfryngau cymdeithasol - i berfformiad Yma o Hyd cyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Awstria.
Dyma Dafydd Iwan yn sôn am hanes cyfansoddi'r gân yn ystod ei ddigalondid gwleidyddol yn yr 1980au a sut mae wedi datblygu'n anthem chwaraeon.
Mae o'n reit ryfeddol, fel petai'r gân yn dal i dyfu wrth i fwy a fwy o glybiau ei ddefnyddio a mwy o bobl ei chlywed hi, yn cynnwys pobl ddi-Gymraeg.
Mae lot o bobl ddi-Gymraeg yn dweud wrtha i: "I don't know much about your songs but I love that one whatever it is" felly mae 'na rywbeth sy'n eu cynhyrfu hyd yn oed os nad ydi nhw'n gwybod be' ydi ystyr y gân.
Gafodd hi ei sgwennu yng nghyfnod Thatcheriaeth, pan oedd y pyllau glo i gyd yn cael eu cau ac ati. Roedd y refferendwm wedi methu yn '79 ac roedd llawer ohonan ni yn ddigalon braidd.
Mi es i ar daith drwy Gymru efo Ar Log yn 1982 i gofio marw Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, ac mi gyfansoddais i rai caneuon ar gyfer y daith honno, fel Cerddwn Ymlaen ac mi roedd hi'n daith arbennig o lwyddiannus.
Yn amlwg roedd rhaid i ni ddilyn i fyny efo taith y flwyddyn wedyn ac ar gyfer y daith honno roedd rhaid i ni gael rhyw fachyn a'r bachyn amlwg i mi oedd bod Gwynfor Evans wedi dweud rhywbryd mai'r flwyddyn 383, pan adawodd y Rhufeiniaid Cymru am y tro olaf, oedd y cyfle pan oedd Cymru yn gallu penderfynu tynged ei hun - o'r adeg hynny ymlaen...
Roedd hwnnw yn fachyn handi iawn ar gyfer y daith yn 1983 - 1600 o flynyddoedd ers i Macsen Wledig a'r Rhufeiniaid adael Cymru.
O le daeth y geiriau 'yma o hyd'?
Dwi'n cofio eistedd lawr yn y tŷ yn Waunfawr yn meddwl am y syniad yna ein bod wedi para 1600 o flynyddoedd ac wrth gwrs mi ddaeth yr ymadrodd 'yma o hyd' i'r meddwl a'r ymadrodd 'er gwaethaf pawb a phopeth'.
Ac yna dwi'n cofio cyfansoddi'r gytgan yna 'Da ni yma o hyd, er gwaethaf pawb a phopeth da ni yma o hyd...' ac yna sgwennu'r penillion - gan ddechrau efo Macsen.
O be' dwi'n cofio, ar ôl i fi daro ar y syniad 383 a 1983 a'n bod ni wedi goroesi, unwaith daeth y syniad, dwi'n meddwl daeth y gân yn reit sydyn.
Fe wnaeth Ar Log drefniant o'r gân, a'i harafu hi lawr ychydig o be' o ni wedi sgwennu, ac wrth gwrs dyna'r fersiwn a recordiwyd a dyna'r fersiwn sy'n cael ei chwarae bellach ynde.
Roedda' ni'n gorffen pob noson ar y daith efo fi ac Ar Log yn canu'r gân, ac i bob pwrpas dwi'n gorffen pob cyngerdd ers hynny gydag Yma o Hyd.
Mae pob cân yn gorfod cael un syniad canolog, un bachyn, ac roedd y syniad yma o'r cychwyn mae'n debyg yn un oedd yn cydio. Mae'n gyfuniad o'r syniad sy'n bachu a'r angerdd.
Pam bod cefnogwyr chwaraeon yn hoffi Yma o Hyd?
Be' sy'n handi efo'r syniad 'da ni yma o hyd' ydi, nid yn unig ei fod yn berthnasol i Gymru, ond mae llawer o glybiau pêl-droed a rygbi wedi licio'r syniad, yn enwedig os ydyn nhw wedi bod yn y gwaelodion neu wedi bod mewn peryg ac wedi dod nôl - mae'r syniad 'er gwaetha pawb a phopeth da ni yma o hyd' yn berthnasol iddyn nhw.
Er enghraifft, wnaeth Wrecsam ddefnyddio'r gân fel ymgyrch i godi arian i brynu'r clwb.
Mae Llanelli yn ei chwarae hi, a hefyd mae wedi cael ei chwarae yn y stadiwm cenedlaethol a Stadiwm Caerdydd. Yn Stadiwm Caerdydd mae'n debyg y clywodd y Manic Street Preachers y gân ac roedd canwr y Manics yn dweud fasa fo'n licio tasa fo wedi ei sgwennu hi, oherwydd yr angerdd.
Felly cyn gêm Cymru yn erbyn Awstria, ro'n i'n disgwyl rhyw fath o ymateb gan y dorf ond doeddwn i ddim yn disgwyl unrhywbeth fel beth ddigwyddodd nos Iau, roedd o'n ysgubol. Efo'r gytgan roedd o fel corwynt, fel côr yn dod i mewn ar ciw - roedd o'n ffantastig, ac yn emosiynol i mi.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dwi'n meddwl bod Ian Gwyn Hughes (pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru) wedi bod yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o Gymreictod ymysg y tîm a'r dilynwyr, rhywbeth sydd heb ddigwydd efo'r rygbi, ac mae o wedi gofyn i mi ganu yn y gêm Cwpan y Byd nesa hefyd. Be' sy'n ddifyr ydi bod y cefnogwyr hefyd yn canu Calon Lân a'r anthem hefyd - a'u canu nhw'n dda.
Mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol, mae ar draws Trydar i gyd a Facebook, a sawl grŵp WhatsApp - mae o'n dipyn o ffenomen.
Mae rhai ar Facebook wedi ymateb drwy ddweud dwi'n siŵr bod Dafydd yn meddwl am fwy na'r gêm pan ddywedodd o 'Ymlaen, Cymru' ar ddiwedd y gân, ac wrth gwrs nes i ddweud o yn hollol fwriadol achos mod i'n gweld yr angen i ymestyn yr angerdd tu hwnt i'r gêm.
Mae'r erthygl hon yn addasiad o fersiwn gyhoeddwyd gyntaf fis Ionawr 2020
Hefyd o ddiddordeb: