Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Zebre 24-41 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Gareth Davies yn erbyn ZebreFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Davies yn ôl gyda'i dîm rhanbarthol ar ôl chwarae i Gymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

Yn ôl y disgwyl fe gurodd y Scarlets Zebre oddi cartref yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gan sgorio chwe chais a sicrhau pwynt bonws.

Ond fe fydd yna elfen o siom eu bod wedi ildio tri chais yn yr ail hanner - gan gynnwys dau o fewn dau funud - ar ôl bod 3-29 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Corey Baldwin, Ryan Conbeer a Johnny McNicholl wnaeth groesi'r llinell yn yr hanner cyntaf, gyda chiciau Rhys Patchell yn gyfrifol am weddill y pwyntiau.

Sam Lousi, Tomas Lezana a Carwyn Tuipulotu wnaeth dirio wedi'r egwyl, ac fe ychwanegodd Sam Costelow at y sgôr wrth drosi.

Carlo Canna, Michelangelo Biondelli a Giovanni D'Onofrio wnaeth sgorio ceisiau Zebre.

Fe gododd y Scarlets ddau safle o'r 13eg i'r 11eg yn dilyn y sgôr terfynol o 24-41.

Pynciau cysylltiedig