Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Rygbi Caerdydd 32-28 Glasgow
- Cyhoeddwyd
Fe frwydrodd Caerdydd yn ôl i guro Glasgow mewn gêm hynod gyffrous yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Fe lwyddodd Jason Harris a Theo Cabango i groesi'r llinell yn hr hanner cyntaf, ond rhwng y ddau gais yna fe roedd yna dair i'r ymwelwyr - gan Sebastian Cancelliere, Sam Johnson a Fraser Brown.
Ond pan gafodd Cancilliere ei hel i'r cell gosb fe lwyddodd Willis Halaholo i leihau'r bwlch gyda thrydydd cais Caerdydd.
Fe diriodd Cabango am yr eildro, ac fe wnaeth cais a throsiad gan Jarrod Evans sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.
Mae Caerdydd yn codi un lle i'r 13eg safle yn y tabl gyda 23 o bwyntiau.