Parc Ynni Baglan: Costau cynyddol i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Parc Ynni Baglan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr orsaf bŵer breifat (dde) yn cyflenwi'r unedau busnes ar y chwith

Mae busnesau ym Maglan yn dweud eu bod yn wynebu costau cynyddol wrth i ddyfodol eu cyflenwad pŵer gael ei ystyried yn y llysoedd.

Fe all unedau ar Barc Ynni Baglan gael eu datgysylltu o orsaf bŵer breifat mor fuan â'r wythnos nesaf.

Aeth cwmni rheoli yr orsaf bŵer i'r wal y llynedd, ac mae'r rheolwyr dros dro yn bwriadu adennill rhai o'u costau misol o £600,000 oddi wrth eu cwsmeriaid tra bod camau cyfreithiol yn parhau.

Mae Llywodraeth Cymru yn apelio yn erbyn cynllun i ddatgysylltu cyflenwadau trydan o 4 Ebrill.

'Pwysau ar fusnesau'

Agorwyd Gorsaf Bŵer Baglan yn 2003 i ddarparu cyflenwad trydan preifat i fusnesau ar Barc Ynni Baglan.

Nid yw'r orsaf bŵer wedi cynhyrchu ynni ers cwpl o flynyddoedd, ond mae bellach yn gweithredu fel cyswllt rhwng yr ystâd ddiwydiannol a'r grid cenedlaethol.

Mae rheolwyr sydd wedi'u penodi gan y Gwasanaeth Ansolfedd wedi treblu pris trydan ers dechrau'r flwyddyn, yn ôl perchnogion busnes lleol. Mae ganddynt gysylltiad preifat i'r orsaf bŵer, felly nid ydynt yn gallu newid darparwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r costau yn "eithaf anodd eu credu" yn ôl Jonathan Ridd

"Does gennym ni ddim dewis heblaw defnyddio'r hyn sydd wedi'i ddarparu," meddai Jonathan Ridd, sy'n berchen ar nifer o unedau ar Barc Ynni Baglan ac sy'n dibynnu ar yr orsaf bŵer am drydan.

"Fe ddaw i'r pwynt y bydd y costau uwch yn rhoi cymaint o bwysau ar y busnes fel ei fod yn mynd i effeithio ar lif arian, mae'n mynd i effeithio ar broffidioldeb [profitability], a pha mor hyfyw ydy hi i redeg busnes ar y parc ynni yma."

Mae llythyr at gwsmeriaid, sydd wedi dod i law BBC Cymru, yn dweud y bydd yr orsaf bŵer yn ceisio adennill ei chostau misol o £600,000 "gan unrhyw gwsmeriaid sy'n dymuno ymestyn eu cytundebau y tu hwnt i 1 Ebrill".

Dywedodd Mr Ridd fod y costau yn "eithaf anodd eu credu".

"Gan fod yr orsaf bŵer wedi'i datgomisiynu'n ddiogel a dim ond ychydig o staff sydd yno, mae'n anodd deall o ble mae'r ffigwr o £600,000 yn dod," meddai.

Ers i'r gweithredwyr blaenorol fynd i ddwylo'r derbynwyr, mae gwaith wedi dechrau i gysylltu'r parc yn uniongyrchol â'r grid cenedlaethol.

Ond nid yw'r gwaith i fod i gael ei gwblhau tan ddiwedd mis Mai, gyda'r cyflenwad presennol wedi'i clustnodi i'w ddiffodd ym mis Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Agorwyd Gorsaf Bŵer Baglan yn 2003 i ddarparu cyflenwad trydan preifat i fusnesau ar Barc Ynni Baglan

Dwedodd Mr Ridd ei bod yn hanfodol bod Western Power Distribution (WPD) yn gweithio i "gyflymu" y gwaith i gysylltu busnesau â'r grid cenedlaethol.

Mae BBC Cymru wedy gofyn i WPD am ymateb.

'Cyfnod pryderus'

Penderfynodd barnwr y gallai gweithredwyr yr orsaf bŵer, a benodwyd gan y Gwasanaeth Ansolfedd, ddechrau datgysylltu busnesau o Ebrill 4 ond mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.

Y cyflogwr fwyaf ar y stad ddiwydiannol yw Sofidel, sy'n cynhyrchu papur. Yn ystod un gwrandawiad llys dwedodd efallai bydd rhaid diswyddo 320 o staff os bydd y cyflenwad trydan yn diffodd.

Dwedodd Sofidel wrth BBC Cymru eu bod wedi "rhoi nifer o fesurau sefydliadol a thechnegol ar waith". Deallir bod rhain yn cynnwys llogi generaduron.

Mae angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddefnyddio'r generaduron oherwydd lefelau'r llygredd sy'n cael ei chynhyrchu, ond nid yw CNC wedi eu cymeradwyo eto.

Dwedodd Nigel Rees, perchennog busnes adeiladu sydd ag uned ar y stad ddiwydiannol, fod yr "ansicrwydd" yn ei gwneud yn gyfnod pryderus.

Disgrifiad o’r llun,

"Rydyn ni'n ansicr sut y bydd hyn oll yn effeithio arnom ni," meddai Nigel Rees

"Ydyn ni'n mynd i allu parhau i gael busnes yma? Sut ydyn ni'n mynd i redeg parc ynni drwy ddefnyddio generaduron?

"Gyda'r costau'n codi, rydyn ni'n ansicr sut y bydd hyn oll yn effeithio arnom ni," meddai.

Mae'r ystâd ddiwydiannol hefyd yn gartref i bencadlys Cyngor Castell-Nedd Port Talbot.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod y cyngor wedi trefnu i newid ei gysylltiad trydan ei hun o'r orsaf bŵer breifat i'r grid cenedlaethol yn 2021, ond ni wnaeth y cyngor ymateb i gwestiynau am y gwaith na'r costau.

Mae'r Gwasanaeth Ansolfedd yn dweud fod y costau ynni cyfanwerthu uwch wedi'i pasio mlaen i'w cwsmeriaid.

Ychwanegwyd na fyddai'r costau cyfreithiol yn cael eu pasio mlaen i denantiaid Parc Ynni Baglan.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed.

"Byddwn yn cadarnhau ein camau nesaf maes o law."