Orthios: Colli 140 o swyddi ym Môn yn 'ddirybudd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Bydd rhaid ni grafu am jobsys newydd," meddai Elwyn Kieron Birchall, sy'n gweithio yn Orthios

Mae gweithwyr menter ailgylchu ar Ynys Môn wedi cynnal protest symbolaidd tu allan i brif fynedfa'r safle ar ôl i 140 o weithwyr gael gwybod na fyddai swyddi yno iddyn nhw mwyach.

Mae dillad a het galed wedi cael eu gosod ar y llawr a'u hongian ar arwydd i ddynodi 'diwedd' y safle ar gyrion Caergybi.

Daeth cadarnhad fod prif gyllidwr preifat cwmni Orthios wedi penderfynu rhoi'r busnes yn nwylo'r gweinyddwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran rheolwyr y cwmni eu bod hwythau wedi dychryn gyda'r datblygiadau.

'Newid yn ddirybudd'

"Rydym wedi cael ein dychryn a'n digalonni gyda digwyddiadau'r wythnos hon, a'r effaith y mae wedi'i gael ar yr holl staff," meddai'r llefarydd.

"Gyda siglad llaw a chyfnewid llythyrau roeddem yn credu ein bod wedi cytuno ar delerau gyda'n prif fuddsoddwr yr wythnos diwethaf ar gyfer cynllun prynu allan gan y rheolwyr (management buy-out), a oedd yn cynnwys rhyddhau cyllid i warantu cyflogau staff.

"Yn anffodus ac oherwydd rhesymau nad ydym yn eu deall yn llawn eto, newidiodd y sefyllfa yn ddirybudd ddoe [dydd Mawrth].

"Mae trafodaethau pellach yn awr yn mynd rhagddynt ac rydym yn mawr obeithio am ganlyniad positif."

Disgrifiad o’r llun,

Protest symbolaidd tu allan i fynedfa gwaith Orthios yng Nghaergybi

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales fore Mercher, dywedodd un o weithwyr y cwmni, Carl Thomas, fod pawb wedi eu "syfrdanu gan y newyddion, ac yn poeni sut maen nhw am symud ymlaen a thalu'r biliau" gan eu bod i fod i gael eu talu ddydd Iau.

Roedd Mr Thomas wedi mynd i weithio fel arfer ddydd Mawrth, a dim ond 10 munud cyn ei shifft y clywodd ef a'i gydweithwyr y byddai'n cael ei ddiswyddo.

"Mi ddaeth fel dipyn o sioc. Rydym wedi cael addewidion gwag dros y mis diwethaf y byddai buddsoddwyr newydd yn cymryd drosodd."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelodd Boris Johnson gyda safle Orthios fis Ionawr

Dywedodd bod y gweithwyr yn cynnal protest tu allan i brif fynedfa'r gwaith, er mwyn "gwneud datganiad".

"Dydan ni ddim angen gweld hyn yn mynd yn angof - rydan ni angen help.

"Mae fy nghydweithwyr wedi ypsetio, yn flin a jest isio atebion. Mae gynnon nhw forgeisi a biliau i'w talu, a theuluoedd i'w bwydo."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lisa Brown, gweithiwr arall, eu bod yn amau nad oedd pethau'n iawn ers rhai wythnosau

"Roedd o tua mis yn ôl pan natho ni weld 'red flags'," dywedodd gweithiwr arall, Lisa Brown.

"Doeddan nhw ddim wedi bod yn talu bills ond nathon nhw addo 'sa ni'n cael ein talu. Ond 'nath hynny newid ddoe pan gafon ni ein taflu o'r safle 'ma.

"Sioc mwy na'm byd ydy o - y celwyddau - dylen nhw 'di deud y gwir - fysan ni wedi gallu paratoi wedyn.

"Mae pawb yn gutted - mi oeddan ni'n weithlu da, mae am fod yn anodd heb unrhyw gymorth."

'Gadael swyddi da i ddod yma'

Fe ymunodd Gwilym Parry â'r cwmni ym mis Rhagfyr 2021, gan adael swydd dda gydag RAF yn Y Fali.

"Siomedig yn ofnadwy dwi," dywedodd.

"Mae pawb sydd yma wedi rhoi bob ymdrech mewn i gael y gwaith i weithio a dwi'n meddwl bod ni wedi cael ein cam-drin yma.

Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd Gwilym Parry swydd dda ar safle RAF Y Fali i ddod i weithio gyda Orthios y llynedd

"Lot wedi gadael swyddi da i ddod yma - dydy siomedig ddim yn cyfro hyn.

"Alla i mond mynd allan a chwilio am waith eto - alla i mond gobeithio bod 'na waith o gwmpas i bawb arall," dywedodd.

"Ma' 'na hogia' da yma sydd 'di rhoi bob ymdrech. 'Da ni 'di cael ein gadael i lawr."

'Safle yn bwysig i Ynys Môn'

Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mercher dywedodd yr Aelod Senedd lleol, Rhun ap Iorwerth bod y cyhoeddiad wedi bod yn sioc i'r gweithlu, o ystyried faint o rybudd gawson nhw.

"Mae gweithwyr wedi cysylltu â mi yn pryderu am y sefyllfa, poeni am dalu rhent ac ati ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â nhw," meddai.

"Dwi wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio cael cymorth i'r gweithwyr ac i'r cwmni.

"Mae'r safle yma yn un pwysig yn ddiwydiannol i Ynys Môn ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau bwrlwm economaidd i'r ardal yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Orhios
Disgrifiad o’r llun,

Mae Orthios wedi'i leoli ar gyn safle Alwminiwm Môn ar gyrion Caergybi

Mewn datganiad cynharach, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod yn "bryderus iawn" clywed am drafferthion ariannol y cwmni.

"Mae hwn yn safle allweddol ar gyfer creu gweithgaredd economaidd ar yr ynys.

"Rwyf wedi cysylltu â'r cwmni i ofyn am sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei wneud i ddatrys y sefyllfa ac i ddiogelu swyddi, a byddaf yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cymorth ar gael i weithwyr a'r cwmni."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd hwn yn gyfnod pryderus i weithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yng Nghaergybi. Rydym yn barod i gynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad yma."

'Siomi gan ei gyllidwyr'

Dywedodd yr Aelod Seneddol, Virginia Crosbie, fod y newydd fod Begbies Traynor wedi'u penodi fel gweinyddwyr yn "hynod siomedig".

"Rwy'n cydymdeimlo gyda'r 120 [sic] o bobl a'u teuluoedd sydd wedi colli eu swyddi," meddai.

"Fy nealltwriaeth i yw bod rhywfaint o obaith am bryniant gan y rheolwyr a bydd yr holl gredydwyr yn cael eu talu, ond bydd yn rhaid i ni weld sut mae hynny'n datblygu.

"Roedd y cwmni'n gyffrous ac yn arloesol - mae wedi buddsoddi'n helaeth yn ei weithlu medrus - ond yn y pen draw mae'n ymddangos ei fod wedi cael ei siomi gan ei gyllidwyr."

Pynciau cysylltiedig