Ffolineb Ffŵl Ebrill dros y degawdau
- Cyhoeddwyd
"Ffŵl Ebrill! Dydy Pecyn Goroesi'r Eisteddfod ddim yn bodoli (yn anffodus!)… a dyma hanes y diwrnod dwl yma ar hyd y blynyddoedd.
Mae'n siŵr bod y mwyafrif ohonom wedi cael ein twyllo dros y blynyddoedd ar ddydd cyntaf mis Ebrill, a ninnau'n methu credu wedyn ein bod wedi cwympo am y fath branc.
Cyfeiriadau cynnar
Niwlog yw tarddiad arferiad Ffŵl Ebrill. Does dim sôn amdano mewn cyfrolau arferion gwerin Cymreig, ac aneglur yw'r cefndir yn ôl ffynonellau tebyg o Loegr. Mae yna gyfeiriadau mewn print i April Fool's Day yn y Saesneg yn ystod y 17eg ganrif, ac yn ôl erthygl yn y Gentleman's Magazine o Fai 1766, fe ledodd y prancio'n gyflym.
Erbyn canol y 18fed ganrif roedd pobl dros y Deyrnas Unedig a thu hwnt yn gyfarwydd â'r arfer o wneud ffyliaid o'i gilydd ar Ebrill y cyntaf, wrth anfon negeseuon gwirion, ac yn ystod cyfnod cynnar y traddodiad, y tueddiad oedd anfon pobl ar dasgau ofer a dibwrpas.
Y Wasg
O safbwynt y papurau newydd Cymreig, cyhoeddwyd darn o farddoniaeth Saesneg yn y Cambrian yn 1805 a gyfeiriodd at yr April Fool tra ymddangosodd erthygl yn olrhain hanes Ebrill y cyntaf yn y North Wales Gazette yn 1824.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi bod y geiriad Ffŵl Ebrill ar lafar yn gyffredinol erbyn yr 1820au, ac mae yna lythyr Ffŵl Ebrill o 1859 yng nghasgliad llawysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol, gyda'r sgrifennwr yn anfon siec am daliad rhent heb sylweddoli mai tric ddechrau'r mis ydoedd.
Y gred oedd bod angen cyflawni'r pranc cyn hanner dydd, neu anlwc piau hi, a chi fase'r ffŵl gwirion os yn ceisio chwarae unrhyw jôc yn ystod y prynhawn.
Doniol yw darllen rhai o'r erthyglau Cymraeg yn y wasg ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed, gyda'r awduron yn cael hwyl o'r mwyaf yn rhestru eu 'gorchfygon' Ebrill y cyntaf i'r darllenwyr.
Yn ôl unigolyn drygionus a gyfrannodd adeg diwrnod Ffŵl Ebrill 1889:
"Wyth o'r gloch y boreu - Rhoddi fy mhen allan drwy ffenestr fy ystafell wely, a gweiddi 'Llefrith' ar fachgen a gariai nifer o biseri ar hyd y brif heol. Edrychodd y bachgen o'i gwmpas, ac yna aeth yn ei flaen. Perais iddo sefyll felly dair gwaith. Ceisiais wneyd yr un peth y pedwerydd tro, ond rhoddais fy mhen allan ar adeg amhriodol, canys canfyddwyd fi gan y bachgen, a thaflodd rwden i fyny ataf gan dori y ffenestr a gwneyd gwerth haner coron o ddifrod ar y gwydr, yn nghyda deffro fy mhriod. …
"1.30 - Dywedodd John Williams wrthyf fod cur aenaele yn ei ben. Dywedais inau wrtho am gymeryd dogn o 'Seidlitz Powder', a chan nad oedd erioed wedi bod yn ei gymeryd o'r blaen dywedais wrtho am roddi y ddau bowdwr mewn dwfr mewn dau wydryn gwhanol, ac yfed y naill ar ol y llall. Gwnaeth yntau hyny, a'r canlyniad fu i'r gwlybwr ymgynhyrfu yn ei gylla, gan ffrothio i fyny gyda nerth anorchfygol, ac ymweithio allan drwy ei geg, ei drwyn, ei lygaid a'i glustiau, nes yr ymddangosai ei holl gyfansoddiad fel ar fin ffrwydro. Dychrynais dipyn ar y cyntaf, ond pan ddechreuodd ddyfod ato ei hun dechreuais chwerthin mor drybeilig nes ysgwyd yr holl dy, a bu raid i bedwar o ddynion fy nghario i'm gwely, a chyrchu meddyg rhag ofn y buaswn yn chwerthin i farwolaeth."
Jôcs plant ysgol
Aeth un awdur ati i gyfansoddi darn o farddoniaeth o dan y teitl Ffŵl Ebrill ar gyfer papur Tarian y Gweithiwr yn 1893 am blant ysgol yn dweud wrth berson y plwy' bod y "Llan ar dân"!
Yn sicr, roedd yr arferiad yn un boblogaidd gyda phlant ar droad yr ugeinfed ganrif a thu hwnt, wrth iddynt fwynhau chwarae tric ar ffrindiau ac athrawon gyda jôcs syml.
Mae Gwerfyl Thomas, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Dunraven, Treherbert, yn ystod yr 1940au, yn cofio'r hwyl a gafodd y plant ar Ebrill y cyntaf wrth sôn bod na faw ar wyneb un o'i ffrindiau, gan gyflyru hwnnw i edrych yn y drych a darganfod mai jôc oedd y cyfan.
Tynnu coes hefyd oedd Daphne Haynes, o Ysgol Gynradd Dyfnant, Abertawe, eto yn yr 1940au, a soniodd wrth fachgen o'i dosbarth fod lasys ei sgidiau wedi dadwneud. Plygodd i lawr i'w clymu, gan sylwi mai jôc oedd y cyfan wrth i'r ferch fach weiddi Ffŵl Ebrill arno.
Dyfodol disglair i'r arferiad?
Er ein bod ni'n llwyr ymwybodol o arwyddocâd y cyntaf o Ebrill bob blwyddyn, mae straeon annhebygol yn parhau i'n twyllo fel darllenwyr papurau newyddion neu wylwyr teledu a defnyddwyr y rhyngrwyd.
Mae'r cyfryngau hyn wedi profi'n ffyrdd gwych o chwarae triciau ar eu cynulleidfaoedd - rhaid bod yn effro i'w tactegau os am osgoi syrthio i'w trap. O erthyglau chwareus yn hyrwyddo eitemau ffug i'r swydd-ddisgrifiadau dychmygol ar-lein neu mewn print, mae angen bod yn wyliadwrus felly o'r prancwyr direidus.
Os ydych yn cael eich temtio ar Ebrill y cyntaf gan yr hysbyseb swydd rhan amser, £100,000 y flwyddyn, fel blaswr siocled ar ynys bellennig, meddyliwch ddwywaith cyn ceisio amdani!