Gwadu caniatáu prynu cwmni microsglodion gan China

  • Cyhoeddwyd
Newport Wafer FabFfynhonnell y llun, Newport Wafer Fab
Disgrifiad o’r llun,

Mae Newport Wafer Fab yn cyflogi tua 450 o bobl yn ardal Dyffryn y ddinas

Mae adroddiadau'n cael eu gwadu bod cytundeb sy'n caniatáu i gwmni Nexperia gymryd drosodd cynhyrchydd microsglodion mwyaf y DU, Newport Wafer Fab, wedi cael sêl bendith.

Mae'r posibilrwydd wedi bod yn destun pryder gan mai cwmni o China, sy'n cael ei gefnogi gan lywodraeth y wlad, yw prif berchennog Nexperia.

Yn ôl adroddiad ar wefan Politico mae Llywodraeth y DU "wedi cymeradwyo'r cytundeb yn dawel".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod "yn ystyried yr achos a does dim penderfyniadau wedi eu gwneud".

Mae Nexperia hefyd wedi dweud nad yw'r cwmni wedi cael ei hysbysu o benderfyniad i gymeradwyo'r cytundeb.

Ond mae'r BBC yn deall bod modd i'r Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng, ymyrryd ac mae'n dal yn bosib iddo wneud hynny.

Fe fyddai'r fath ymyrraeth, yn sgil pryderon y gallai seilwaith allweddol y DU fod yn nwylo China, yn dod dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol a Buddsoddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prinder lled-ddargludyddion wedi bod ar draws y byd

Mae Newport Wafer Fab, sy'n cynhyrchu lled-ddargludyddion (semiconductors), yn cyflogi 450 o bobl yn ei ffatri yn ardal Dyffryn y ddinas.

Mae lled-ddargludyddion, sydd hefyd yn cael eu galw'n microsglodion neu sglodion, yn caniatáu i drydan lifo trwy ddyfeisiadau. Maen nhw felly'n rhan bwysig o bob math o bethau, o ffonau clyfar i ganolfannau data enfawr sy'n cynnal y rhyngrwyd.

'Heb glywed dim ar y mater hwn'

Mae gan Nexperia bencadlys yn Yr Iseldiroedd a safle ym Manceinion.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Mae Nexperia wedi darllen sawl erthygl yn y wasg ynghylch penderfyniad gan Lywodraeth y DU i beidio ag ymyrryd yng nghaffaeliad Nexperia o Newport Wafer Fab yng Ngorffennaf 2021.

"Dydy Nexperia heb gael gwybod am benderfyniad o'r fath, heb glywed dim ar y mater hwn gan Lywodraeth y DU ers caffael [Newport Wafer Fab] ac mae wedi rhoi gwybod i'r llywodraeth yn flaenorol i fod yn barod i gydweithredu gydag unrhyw adolygiad.

"Ers ei fuddsoddiad cychwynnol, mae Nexperia wedi diogelu rôl Newport Wafer Fab o fewn diwydiant lled-ddargludyddion y DU ac mae wedi gwireddu'r cynlluniau i fuddsoddi yn y safle fel ei fod mor llwyddiannus â safle Manchester Wafer Fab."

Y llynedd fe ofynnodd y prif weinidog, Boris Johnson wrth yr ymgynghorydd diogelwch gwladol, Syr Stephen Lovegrove i archwilio'r caffaeliad.

Ddydd Gwener, fe ddywedodd AS Llafur Gorllewin Casnewydd, Ruth Jones ei bod yn ysgrifennu at yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol gan ofyn am eglurder ynghylch y sefyllfa ar frys.