Cyflog llawn am dri mis arall i staff GIG gyda Covid hir
- Cyhoeddwyd
Bydd staff GIG Cymru sydd wedi bod ar absenoldeb hirdymor oherwydd Covid yn parhau i dderbyn tâl llawn am o leiaf dri mis arall.
Roedd cyflog rhai gweithwyr i fod i haneru o 1 Ebrill.
Ond ddydd Gwener fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod y trefniadau presennol yn cael eu hymestyn.
Dywedodd gweinidogion hefyd y bydden nhw'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos "dros yr wythnosau nesaf".
Dywedodd Plaid Cymru y dylai'r cyhoeddiad fod wedi dod ynghynt.
Mae'r cyhoeddiad ddydd Gwener yn effeithio ar bobl sydd wedi bod i ffwrdd o'r gwaith ac sy'n byw gyda Covid hir ers cyn 31 Mawrth 2021.
Roeddent wedi disgwyl y byddai eu cyflog yn gostwng i'r hanner o ddydd Gwener.
Dywedodd Cyflogwyr GIG Cymru mai ymestyn cyflog llawn am dri mis oedd "manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd adsefydlu".
'Adolygu'n gyson'
Bydd y rhai a ddechreuodd eu habsenoldeb rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022 yn cael blwyddyn o gyflog llawn cyn iddynt symud i hanner cyflog.
Bydd unrhyw un y mae ei absenoldeb sy'n gysylltiedig â Covid yn dechrau rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Mehefin 2022 yn derbyn hyd at 6 mis o gyflog llawn ac yna 6 mis o hanner cyflog.
Bydd y trefniadau ar ôl 1 Gorffennaf yn cael eu "hadolygu'n gyson", meddai Cyflogwyr GIG Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymestyn y darpariaethau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff GIG Cymru.
"Bydd y rhai sy'n dal i ddioddef o symptomau Covid ac sy'n methu dychwelyd i'r gwaith yn parhau ar gyflog llawn tan fis Gorffennaf.
"Bydd y sefyllfa'n parhau i gael ei monitro a'i hadolygu'n ofalus dros yr wythnosau nesaf."
'Newyddion da ond hir yn dod'
Roedd yna groeso i'r cyhoeddiad gan lefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sydd wedi mynegi ei bryderon am y sefyllfa wrth y gweinidog iechyd ar sawl achlysur.
"Mae hwn yn newyddion da, mae hwn yn rhywbeth dwi wedi bod yn galw amdano fo yn gyson ers peth amser.
"Mae'n drueni ei bod hi wedi cymryd tan heddiw i'r llywodraeth wneud hyn achos mae'r oedi wedi achosi cryn boen meddwl ond o leia' rŵan rydan ni mewn lle llawer iawn gwell."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021