Covid hir: 'Dydw i ddim yr un person bellach'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lynne WakefieldFfynhonnell y llun, Lynne Wakefield
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n teimlo fel 'mod i'n mynd rownd mewn cylchoedd," meddai Lynne Wakefield

Mae nyrs o Gaergybi wedi dweud fod effeithiau Covid hir yn golygu ei bod hi "ddim yr un person bellach".

Mae Lynne Wakefield yn dal i ddioddef gyda blinder a dryswch wedi iddi gael coronafeirws ym Mehefin 2020.

Dywedodd bod ei chyflogwr wedi bod yn dda iawn yn ei chefnogi, ond mae staff eraill y GIG wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn teimlo dan bwysau i ddychwelyd i'w gwaith.

Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru, sy'n cynrychioli'r byrddau iechyd, bod "pecyn llawn o gefnogaeth hirdymor" ar gael i staff sy'n cael eu heffeithio gan Covid hir.

Fe wnaeth arolwg diweddar awgrymu bod tua 56,000 o bobl yng Nghymru â symptomau Covid hir - all gynnwys blinder, cur pen a pheswch.

'Dim byd alla i wneud'

Fe wnaeth Ms Wakefield geisio dychwelyd i'w gwaith yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi ddwywaith, ond doedd hi ddim yn gallu ymdopi oherwydd blinder a chyfnodau o deimlo'n benysgafn.

"Roeddwn i'n arfer gwneud tair sifft 12 awr yr wythnos. Fyddwn i ddim yn gallu breuddwydio am wneud hynny rŵan," meddai.

"Dwi'n trio gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud fy hun i deimlo'n well ond dwi'n teimlo fel 'mod i'n mynd rownd mewn cylchoedd.

"Dwi'n teimlo fel 'mod i mewn limbo - does dim byd alla i wneud nes i fi gael diagnosis o ryw fath."

Mae Ms Wakefield yn aros i gael gweld arbenigwr.

Ysbyty Penrhos StanleyFfynhonnell y llun, Eric Jones | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Lynne Wakefield geisio dychwelyd i'w gwaith yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi ddwywaith

Dywedodd gweithwyr eraill yn y GIG yng Nghymru, oedd ddim eisiau cael eu henwi, wrth BBC Cymru eu bod yn teimlo pwysau i ddychwelyd i'w gwaith er bod ganddyn nhw symptomau Covid hir.

Yn ôl un, cafodd wybod ar ôl dychwelyd i'r gwaith y byddai'n cael rhybudd ffurfiol pe bai'n absennol eto o fewn y flwyddyn nesaf.

'Haeddu gwell'

Dywedodd Paul Summers o Unsain Cymru bod gweithwyr iechyd wedi dweud wrth yr undeb eu bod yn poeni eu bod yn cael eu hannog i ddychwelyd i'w gwaith cyn gwella'n llawn oherwydd bod gan reolwyr bryder am restrau aros.

"Os ydy byrddau iechyd yn ymddwyn fel hyn maen nhw'n anwybyddu lles eu staff ac maen nhw'n debygol o greu problem fwy yn y pendraw," meddai.

"Mae gweithwyr yn haeddu gwell."

Ond dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes bod "holl fyrddau iechyd Cymru yn gweithio gyda, ac yn dysgu gan gleifion sy'n dioddef gyda Covid hir".

"Mae pecyn llawn o gymorth hirdymor mewn lle i gefnogi'r holl staff, sydd wedi gweithio'n ddiflino i ofalu am y cyhoedd ond sydd nawr yn dioddef o effeithiau Covid-19 eu hunain," meddai.

"Ar draws GIG Cymru mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i ddeall mwy am effaith coronafeirws a'r problemau mwy hirdymor sy'n wynebu staff a'r cyhoedd."

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Dywedodd Llafur Cymru y byddai ei gynllun i adfer y GIG yn cynnwys "cefnogaeth i les staff y GIG sy'n ein helpu i'w gyflawni".

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae ganddi bryder am sut mae staff y GIG yn cael eu trin a byddai'n sefydlu clinigau arbenigol i drin Covid hir.

Dywedodd Plaid Cymru bod gweithwyr iechyd sydd â Covid hir wedi "dioddef oherwydd eu gwasanaeth", ac y byddai eu cynllun i recriwtio 6,000 o staff ychwanegol yn helpu i leddfu'r pwysau.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig mae'r honiadau gan staff yn "bryderus", ac fe fyddan nhw'n sicrhau ei bod yn haws iddyn nhw gael cefnogaeth fel cwnsela.

Bydd mwy ar y stori hon ar Wales Live am 22:35 nos Fercher ar BBC One Wales.