Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Derby

  • Cyhoeddwyd
joel piroeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joel Piroe yn sicrhau buddugoliaeth i'r Elyrch yn erbyn Derby brynhawn Sadwrn

Mae tîm Wayne Rooney, Derby County, wedi wynebu nifer o drafferthion yn ddiweddar a nhw oedd yn ymweld ag Abertawe ddydd Sadwrn.

Trafferthion ariannol yn fwy na dim sydd wedi golygu fod Derby wedi colli ugain pwynt ac ar waelod y bencampwriaeth.

Dyfnhau wnaeth eu trafferthion ar ôl 8 munud yn Abertawe wrth i Joel Piroe osod y tîm cartref ar y blaen.

Ymhen wyth munud arall roedd Joel Piroe wedi rhoi ei dîm ddwy gôl ar y blaen gydag ergyd gref i gongl y rhwyd.

Newidiodd yr awyrgylch wrth i Andrew Fisher - gôl-geidwad Abertawe - droseddu yn erbyn Luke Plange ar ôl 28 munud a doedd rhwydo'r gic gosb ddim yn dasg fawr i Tom Lawrence. Roedd hi'n ddwy gôl i un a chwarae digon tawel oedd chwarae Abertawe yn yr hanner cyntaf wedi hynny.

Yn yr ail hanner Hannes Wolf oedd y chwaraewr mwyaf bywiog i'r Elyrch ac ef oedd yr agosaf at sgorio ond fe darodd y bar.

Roedd Derby yn gweld gobaith am un pwynt tua diwedd y gêm a bu cryn apêl ganddynt am gic gosb yn y munudau olaf ond fe lwyddodd Abertawe i ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Bellach mae'r Elyrch yn drydydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth.