Ymchwiliad ar ôl rhyddhau gwybodaeth ynghylch y Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i ohebiaeth swyddogol ynghylch y camau i'w dilyn pan fydd y Frenhines yn marw gael ei rhyddhau'n ddamweiniol gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd yr ohebiaeth a phamffled diogelwch wedi eu dynodi'n "swyddogol sensitif" eu danfon ar gam at aelod o'r cyhoedd.
Roedd y rhyddhau damweiniol yn cynnwys llythyr gan uwch was sifil y DU yn mynegi pryder bod gwefan newyddion wedi datgelu manylion cyfrinachol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru ni ddatgelwyd "gwybodaeth weithredol" ond ni ddylid fod wedi rhannu'r pamffled.
Dywedodd llefarydd ar ran prif was sifil Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall: "Rydym yn cymryd y mater o wybodaeth a diogelwch data wirioneddol o ddifri ac mae hwn nawr yn cael ei ymchwilio fel toriad diogelwch posib."
Mewn e-byst sydd wedi dod i sylw BBC Cymru, ym Medi 2021 fe ysgrifennodd uwch was sifil y DU at swyddogion eraill yn mynegi pryder bod gwefan newyddion wedi cyhoeddi "manylion newydd" ynghylch trefniadau yn dilyn marwolaeth y Frenhines.
Dywedodd y gwas sifil bod yr erthygl "wedi ei seilio ar ddogfennau mewnol" nad oedd bwriad iddyn nhw fod yn gyhoeddus.
Mewn ymateb i hynny, gofynnodd gwas sifil arall am lunio "arweiniad arbennig" ynghylch diogelwch a'i rannu gyda llywodraethau'r DU.
Cafodd yr arweiniad diogelwch hwnnw ei ddynodi'n "swyddogol sensitif" a'i ddanfon at aelod o'r cyhoedd gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru ar gam.
Yn ei ddatganiad llawn, dywedodd Dr Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru: "Tra nad oedd yr e-bost yn cynnwys unrhyw wybodaeth weithredol, roedd wedi ei ddynodi'n 'swyddogol sensitif' a ni ddylid fod wedi ei rannu.
"Rydym yn cymryd y mater o wybodaeth a diogelwch data wirioneddol o ddifri ac mae hwn nawr yn cael ei ymchwilio fel toriad diogelwch posib.
"Ni allwn wneud sylw pellach."