Oedi wrth i bobl deithio ar gyfer gwyliau'r Pasg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhan o'r M4 yn Sain Silian, CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Fairclough/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna amcangyfrif y bydd tua 20 miliwn o gerbydau ar y ffyrdd dros y Pasg

Mae teithwyr yn wynebu ychydig o oedi wrth i bobl fynd ar wyliau'r Pasg - dyma'r gwyliau ysgol cyntaf ers codi'r gofyn cyfreithiol i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Roedd yna ddarogan mai dydd Sadwrn fyddai'r diwrnod mwyaf prysur ar y ffyrdd gydag amcangyfrif y byddai pum miliwn o fodurwyr yn teithio ar ddechrau'r gwyliau.

Hanner dydd, roedd yna adroddiadau o dagfeydd traffig ar arfordir Abertawe yn ardal y Mwmbwls.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod yna dagfeydd hefyd ar Bont Britannia ac ar ffordd yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy.

Yn ogystal bu'n rhaid cau Ffordd yr Orsaf ym Mrynaman am gyfnod oherwydd "digwyddiad" a bu'n rhaid galw'r heddlu.

Mae yna gyngor i bobl sy'n bwriadu teithio ar y rheilffyrdd wirio'r sefyllfa ddiweddaraf o flaen llaw gan fod gwaith peirianyddol wedi ei drefnu yn y gogledd a'r de.

Er trafferthion diweddar mewn sawl un o feysydd awyr y DU - yn rhannol oherwydd achosion Covid ymhlith staff - mae Maes Awyr Caerdydd yn disgwyl 20,000 o deithwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl maes awyr - gan gynnwys Manceinion - wedi gweld oedi mawr yn ddiweddar gyda rhai hediadau'n cael eu canslo

Daeth cyngor Llywodraeth Cymru i beidio â theithio dramor i ben ddiwedd Ionawr.

Er hynny, mae cyngor yn parhau i gymryd profion llif cyflym cyn cymdeithasu, siopa neu ymweld â phobl, ac i bobl â symptomau hunan-ynysu tan cael prawf Covid negatif.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog pobl i gyfarfod tu allan os yn bosib ac awyru ystafelloedd wrth gwrdd dan do.

'Croesi bysedd'

Mae Naomi Williams wedi trefnu i deithio i Helsinki ddydd Sadwrn.

"Ma' gweld yr holl newyddion ar y funud o ran y diffyg staff ac ati ar oedi yn y maes awyr... hynna 'di'r elfen sy'n pryderu fwyaf," meddai.

"A jyst bo' fi'n gallu cyrra'dd y flight, â bod yn onest, so croesi bysedd bydd bob dim yn iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Naomi Williams yn gobeithio na fydd trafferthion gyda'i thaith ddydd Sadwrn

'Ma' petha' wedi troi gornol'

Mae'r ffaith bod pobl â'r hyder i ddechrau trefnu gwyliau eto ers i'r cyngor newid ynghylch teithio dramor yn rhyddhad mawr i Ann Jones, perchennog asiantaeth Teithiau Menai yng Nghaernarfon.

"Fedra' i'm d'eud 'tha chi faint o falch ydw i am y tri mis dwytha' 'ma - ma' petha' wedi troi gornol dwi wir yn gobeithio rŵan," meddai.

Disgrifiad,

Ann Jones, Teithiau Menai: 'Mor braf dod i 'ngwaith bob dydd rŵan'

"Mae mor braf dod i 'ngwaith bob dydd rŵan a bod ni yn trefnu gwylia' rŵan a dim yn symud gwylia' fel dwi 'di bod yn 'neud ers dwy flynedd."

Dywedodd bod hi'n braf gweld pobl yn ddigon hyderus i deithio eto, ac yn edrych ymlaen at "bob math o wylia' - i'r haul a lan y môr, lot yn mynd i ddinasoedd... mae 'na rai yn mynd draw am America".

"Gen i dipyn o deuluoedd a cwpla' yn mynd dros y Pasg ma' rŵan... mae'n newid bywyd i ni unwaith eto rŵan."

A fydd fy awyren yn hedfan?

Er bod hediadau wedi'u canslo mewn sawl maes awyr yn y DU, mae Maes Awyr Caerdydd yn paratoi ar gyfer "adfywiad" wedi dwy flynedd heriol.

"Mae cymunedau Cymru sy'n defnyddio'r maes awyr yn mynegi awyr mawr i deithio eto," meddai'r rheolwr datblygu Marc Watkins.

"Rydym yn disgwyl gwanwyn a haf llawer mwy prysur o ganlyniad."

Ffynhonnell y llun, Cardiff Airport
Disgrifiad o’r llun,

Awyren Wizz Air ym Maes Awyr Caerdydd

Mae'r maes awyr yn rhagweld adennill 51% o'i lefelau teithio cyn Covid yn ystod 10 diwrnod Pasg eleni. Doedd dim hediadau yn ystod Pasg 2020 a dim ond 236 o deithwyr y llynedd.

Eleni, mae'r maes awyr yn disgwyl 157 o hediadau - 79 yn gadael a 78 yn glanio - rhwng dydd Sadwrn a 17 Ebrill. Mae Alicante, Malaga a Tenerife ymhlith y cyrchfannau mwyaf poblogaidd.

Gan ddisgwyl 20,000 o deithwyr eleni, mae yna apêl i bobl gyrraedd mewn da bryd.

Dywed Mr Watkins y gallai'r broses o wirio teithwyr gymryd hirach na'r arfer petai yna "achosion Covid annisgwyl".

Pryd yw'r amser gorau i deithio ar y ffyrdd?

Mae disgwyl dros 20 miliwn o gerbydau ar ffyrdd y DU yn ystod gwyliau'r Pasg.

Rhwng 10:00 a 15:00 yw'r cyfnod mwyaf tebygol o weld tagfeydd y penwythnos hwn, medd arbenigwyr sy'n awgrymu teithio'n gynnar neu ohirio siwrnai hir tan yn hwyrach yn y dydd.

Mae disgwyl mai rhan orllewinol yr M4, rhwng cyffyrdd 23 a 26 o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr, am hanner dydd fydd ardal fwyaf prysuraf Cymru ddydd Sadwrn a dydd Sul.

"Mae ein ffigyrau'n awgrymu cynnydd mawr o ran tripiau hamdden mewn car y penwythnos yma o'i gymharu â'r ddwy flynedd ddiwethaf," medd Rod Dennis o gymdeithas foduro'r RAC.

Mae'n annog pobl i archwilio'u cerbydau cyn siwrne wedi i ymchwil awgrymu taw dim ond 19% o yrwyr sy'n sicrhau eu bod yn ddiogel cyn teithio adeg y Pasg.

A yw fy nhrên yn teithio?

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl oedi i deithwyr ar hyn lein Glynebwy dros y Pasg

Y neges yn gyffredinol yw i bobl chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio dros y Pasg, gan fod yna waith peirianyddol yn y gogledd a'r de-ddwyrain.

O Dydd Gwener Groglith i Llun y Pasg:

  • Bysus sy'n rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Glynebwy

  • Does dim trenau i ac o orsaf Euston yn Llundain oherwydd gwaith uwchraddio mawr

  • Mae trenau Avanti West Coast ond yn teithio rhwng Caergybi a Crewe

Ar ben hynny, bydd dim teithiau rhwng Aberdâr ac Abercynon ddydd Sul y Pasg a bysus sy'n rhedeg rhwng Aberdâr a Phontypridd ar yr un diwrnod.

Beth yw'r sefyllfa i deithwyr fferi?

Daeth teithiau Stena Line rhwng Abergwaun yn Sir Benfro a Rosslare yn Iwerddon i ben dros dro ddydd Llun, tan 12 Ebrill, wrth i'r cwmni ymateb i drafferthion yng Ngogledd Iwerddon yn sgil trafferthion cwmni P&O.

Ond mae rheolwyr yn dweud y bydd eu holl deithiau i ac o Gymru'n dychwelyd i'r amserlen arferol ar gyfer penwythnos y Pasg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fferi Irish Ferries yn gadael porthladd Caergybi am Iwerddon

Mae nifer y teithwyr sy'n teithio dros benwythnos y Pasg eleni'n 29% yn uwch o'i gymharu â 2019, medd Stena line.

Bydd Irish Ferries, yn cynnal y nifer arferol o deithiau dyddiol, sef 16, rhwng Caergybi a Dulyn a rhwng Penfro a Rosslare.