Glyn Wise: 'Edrych ymlaen at yr her newydd'
- Cyhoeddwyd
Dywed Glyn Wise, seren y rhaglen Big Brother, ei fod yn hynod o falch ei fod wedi ei dderbyn i hyfforddi fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.
Fe ddaeth Mr Wise, 34, o Flaenau Ffestiniog, yn agos at ennill y gystadleuaeth yn 2006 ac ers hynny mae e wedi bod yn gyflwynydd ar Radio Cymru ac yn athro yn China.
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg brynhawn Sul dywedodd Mr Wise bod ei ffydd wastad wedi bod yn bwysig iddo.
"Ro'n i'n gweddïo'n ifanc iawn, yn mynd i'r Ysgol Sul ac i Eglwys y Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog.
"Dwi'n cofio bod yn 17 a gweddïo plis 'newch chi gael fi fewn i Big Brother a hynny yn sgil yr adnod 'Seek and you will find, ask and you will receive' yn y Beibl.
"Pan o'n i'n 18 ro'dd delwedd yn bwysig a doedd bod yn Gristion ddim yn teimlo'n cŵl - dyna pam ro'n i'n gweddïo o dan y duvet yn nhŷ Big Brother achos o'n i jyst isio i Dduw edrych ar ôl Mam a Dad - 'neud siŵr bod fy chwiorydd i yn iawn a bod popeth yn gweithio'n iawn ar y tu allan achos pan o'n i'n Big Brother do'n i ddim yn gallu cysylltu gyda neb.
"Ro'n i'n mynd i'r Eglwys ac i'r Undeb Gristnogol yn y Brifysgol ac i'r Christian Union - i'r ddau ohonyn nhw. Ro'n i'n Gristion ar ddydd Sul!"
Dywed Glyn Wise mai mynd i China ddylanwadodd fwyaf arno o ran ei ffydd Gristnogol.
"Pan symudais i China fe ddigwyddodd rhywbeth arbennig - mae Cristnogaeth yn tyfu yno 100% ar gan milltir yr awr.
"'Nes i ddechrau swydd fel athro Saesneg yn Shanghai ac ro'dd pobl yn gofyn i fi fynd i'r Bible Study ac i weddïo gyda nhw ac ro'dd hyn yn rhywbeth na sydd wedi digwydd o'r blaen. Roedd o'n brofiad mor gyhoeddus.
"O hynny wedyn es i ymlaen i'r Community Church yn Shanghai - o'dd o'n brofiad waw. Ro'n i'n gwybod o'r funud yna bo fi isio rhoi fy hun drosodd i fod yn Gristion llawn amser."
'Sefydlu eglwys berthnasol'
Wedi iddo orffen hyfforddi fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru dywed Glyn Wise mai'r hyn a fyddai'n hoffi ei wneud yw sefydlu eglwys agored.
"Dwi isio dechrau eglwys sy'n agored ac sydd efo drysau ar agor drwy'r dydd - 24 awr bron.
"Mae'r eglwys angen bod allan yna a phobl yn gwybod ei bod yn rhan o'r gymuned.
"Dwi isio i'r eglwys y byddai i'n ei rhedeg i fod yn rhan annatod o fywyd pawb fel bod pobl yn gwybod bod yna offeiriad ar gael, bo nhw'n gallu cael gweddi - bo nhw'n cael cysur.
"Pan ro'n i'n China ro'n i'n cael men's groups, ro'n i'n cael safe space groups a grwpiau i sex workers - dyna be dwi wedi bod yn ei wneud fan hyn yn Camden a dwi'n dysgu gymaint gan yr Eglwys yn Lloegr am sut fath o eglwys rwy' i eisiau ei sefydlu yn y dyfodol.
"Mae'n rhywbeth dwi wastad isio 'neud a mae o fel bod y jig-so yn dod at ei gilydd.
"Pan o'n i yn Big Brother 'nes i ddysgu sut i ddelio gyda pob math o bobl wahanol. Pan o'n i gyda Radio Cymru na'th hynna ddysgu fi sut i siarad yn gyhoeddus ac wedyn fel athro 'nes i ddysgu sgiliau sut i gael neges drosodd yn glir a chadw diddordeb pobl - ac mae hynna'n wir yn y pulpud.
"Ti isio 'neud yn siŵr bod y neges yn glir, bod pobl yn gwybod be ti'n siarad am a bo nhw'n mynd adre' wedi dysgu rhywbeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021