Cyn-asgellwr Cymru wedi marw yn 92 oed

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Windsor Major gyda'r cap a enillodd 70 mlynedd yn ôl

Mae cyn asgellwr Cymru a Maesteg, Windsor Major, wedi marw yn 92 oed.

Enillodd Major ddau gap i Gymru - y cyntaf yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad 1949 ym Mharis, a'r ail ym mhencampwriaeth 1950 yn erbyn Yr Alban.

Ar lefel clwb chwaraeodd Major dros dîm diguro Maesteg yn ystod tymor 1949-50 - un o glybiau blaenllaw Cymru ar y pryd.

Mewn neges ar Twitter dywedodd clwb Maesteg mai Major oedd y goroeswr olaf o'u "invincibles".

Ychwanegodd y clwb: "Mae ein meddyliau gyda theulu Windsor yn ystod y cyfnod trist hwn."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Maesteg RFC 💙

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Maesteg RFC 💙

Pynciau cysylltiedig