Ystrad Fflur: Codi cerflun Y Pererin ar ei newydd wedd

  • Cyhoeddwyd
PererinFfynhonnell y llun, DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerflun newydd, sydd wedi ei wneud o dderw Cymreig a dur, yn fwy na'r un gwreiddiol

Mae cymuned yng Ngheredigion yn dathlu gosod cerflun newydd - dair blynedd ers i'r gwreiddiol gwympo mewn tywydd garw.

Cafodd cerflun Y Pererin ei godi yn 2012 yn Ystrad Fflur, ger Pontrhydfendigaid, fel rhan o arddangosfa Sculpture Cymru.

Y bwriad oedd adlewyrchu hanes a thirwedd ardal mynyddoedd Cambria, ond syrthiodd Y Pererin - oedd wedi'i greu o bren - yn 2019.

Aeth y gymuned leol ati i godi £7,500 o arian i'w adnewyddu, gan gyrraedd y targed yma mis Ionawr.

Mae'r pererin newydd - sy'n 15 troedfedd (4.5 metr) o daldra - yn sefyll ar ben bryn yn edrych dros weddillion yr Abaty Sistersaidd gafodd ei godi yn y 12fed ganrif.

Cerflun yn 'eicon poblogaidd'

Pan godwyd y cerflun gwreiddiol y bwriad oedd y byddai'n sefyll am gyfnod byr fel rhan o arddangosfa dros dro.

Ond fe safodd am flynyddoedd, gan ddod yn rhan o'r tirwedd ac yn adlais o'r cyfnod pan oedd yr abaty yn ei anterth pan fyddai pererinion yn ymwelwyr cyson.

Hynny yw, hyd nes i wyntoedd cryf ei chwythu lawr yn 2019.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r cerflun gwreiddiol yn edrych dros yr abaty am saith mlynedd cyn cael ei chwythu i lawr gan wyntoedd cryfion

Yn ôl Jim Cowie, cadeirydd y Grŵp Cyswllt Cymunedol a sefydlwyd i gynnal perthynas rhwng Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur a'r bobl leol, roedd y gymuned ac ymwelwyr yn colli gweld y cerflun ar ôl iddo gwympo.

"Roedd yr hen Bererin, er taw strwythur dros dro oedd e i fod, wedi sefyll am saith mlynedd a daeth yn rhywbeth parhaol ym meddyliau pobl leol," meddai.

"Fe ddaeth i fod yn eicon poblogaidd ar y tirwedd, ac yn atyniad ychwanegol i ymwelwyr â'r Abaty."

Cafodd llawer o luniau eu tynnu o'r Pererin ac fe ymddangosodd mewn sawl cyhoeddiad, ar gardiau cyfarch, a hyd yn oed mewn rhifyn o bapur newydd y Guardian.

"Roedd llawer o bobl, pobl leol ac ymwelwyr yn siomedig pan ddiflannodd o'r golwg, ac roedd llawer yn gofyn i ble roedd e wedi mynd ac a fyddai'n cael ei osod 'nôl yn ei le," meddai Mr Cowie.

Ffynhonnell y llun, DAFYDD WYN MORGAN
Disgrifiad o’r llun,

A fydd y Pererin newydd yn dod yn atyniad fel ei ragflaenydd, wrth iddo deithio i Ystrad Fflur?

Felly aeth y gymuned ati i godi arian i dalu am gerflun newydd.

Fe gawson nhw £7,500 mewn rhodd gan Gronfa Cofebau'r Byd ar yr amod y gallen nhw godi'r un swm trwy roddion eraill.

Ar ôl dau fis o godi arian fe gyrhaeddon nhw'r targed o £7,500 ym mis Ionawr gyda thua 140 o unigolion a busnesau lleol yn cyfrannu.

Comisiynwyd y cerflunydd o Lanfair-ym-Muallt, Glenn Morris - a wnaeth y cerflun gwreiddiol - i greu un arall.

Mae'r ail fersiwn yn fwy na'r cyntaf ac wedi'i adeiladu o dderw Cymreig a dur.

Dywedodd Jim Cowie: "Mae'r cerflun newydd yn sylweddol fwy ac yn fwy cadarn na'r un dros dro.

"Oherwydd ei fod yn sefyll ar ben bryn agored, cymerwyd gofal mawr wrth adeiladu. Mae e wedi'i angori'n gadarn i mewn i floc mawr o goncrit yn y ddaear.

"Bydd angen rhywfaint o waith cynnal a chadw ond mae e wedi'i wneud i bara am flynyddoedd."