Mabwysiadu babi yn Nhwrci a'r daith hir i fod yn fam
- Cyhoeddwyd
Mewn cartref i blant yn Nhwrci, pum munud oedd gan Carren Lewis o Benrhyndeudraeth i wneud penderfyniad a fyddai'n newid ei bywyd hi a dau fabi bach amddifad am byth.
Ar ôl blynyddoedd o geisio cael plant, roedd Carren a'i gŵr ar y pryd wedi trefnu i fabwysiadu'r ddau fabi, bachgen a merch fach, ac wedi bod yn paratoi i'w croesawu i'w teulu ers misoedd.
Ond pan ddaeth y diwrnod i fynd â nhw adref, fe gafon nhw wybod mai dim ond un roedden nhw'n cael ei gymryd wedi'r cyfan, ac roedd yn rhaid iddyn nhw benderfynu pa un yn y fan a'r lle.
Roedd Carren yn egluro pam mai'r bachgen bach o'r enw Mohammed ddewison nhw ac am lwybr troellog ei bywyd ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
Mae'r babi bach hwnnw, a gafodd ei ddarganfod mewn bocs ar ochr y ffordd, bellach yn Gymro 15 oed o'r enw Bedri sydd ar fin sefyll ei arholiadau TGAU.
Taith Carren i Dwrci
Mynd i Dwrci am chwe mis i weithio fel rep gwyliau oedd bwriad Carren pan oedd hi'n 27 mlwydd oed a newydd ysgaru oddi wrth ei gŵr cyntaf. Trodd y chwe mis yn 16 mlynedd wedi iddi gwrdd â dyn lleol, priodi a setlo yn nhref Marmaris, lle roedden nhw'n rhedeg busnes gwyliau llwyddiannus.
Roedd bywyd yn dda a'r ddau eisiau cychwyn teulu. Ond er iddynt drio - gan gynnwys tair rownd o IVF costus a blinedig - fe fydden nhw'n beichiogi a cholli'r babi bob tro.
Fe geision nhw fabwysiadu ond doedd dim plant lleol angen cartref; roedden nhw'n byw mewn ardal freintiedig felly ychydig o blant oedd ar gael i'w mabwysiadu.
Erbyn y diwedd roedd y straen yn ormod ar Carren a oedd wedi mynd i deimlo yn isel a'r briodas ar dorri.
Penderfynodd bod angen amser i ffwrdd o'r briodas arni i feddwl, ac aeth i grwydro Twrci i ddod i adnabod rhannau newydd o'r wlad.
Daeth i ddinas Diyarbakir yn ne ddwyrain y wlad, ardal Gwrdaidd o Dwrci ar y ffin â Syria sydd wedi gweld ymladd mawr rhwng y wladwriaeth a byddin Plaid Gweithwyr y Cwrdiaid, y PKK.
Yno fe welodd Carren faint o blant a phobl ifanc oedd yn byw ar y stryd - 120,000 yn ôl amcangyfrifon UNICEF ar y pryd - ac fe dreuliodd amser gyda nhw, yn dod i'w hadnabod a gadael iddynt ei thywys o gwmpas y dref, er mawr fraw i'w gŵr pan glywodd ei bod mewn lle roedd yn ei ystyried yn beryglus iawn.
Roedd yr hedyn wedi ei blannu i Carren: fe allen nhw roi cartref i un o blant amddifad Diyarbakir.
Fe aeth adref ac ymhen ychydig roedd ei gŵr a hithau wedi gallu gwneud trefniadau i ddod nôl i ymweld â chartref i blant amddifad yn Diyarbakir ac roedd y freuddwyd o fabwysiadu plentyn bach yn real.
'Syrthio mewn cariad'
"Ges i groeso mawr yna," meddai, "fi oedd y foreigner cynta iddyn nhw gael yna ac oedd y plant bach yma, oeddan nhw'n biwtiffwl, oeddan nhw'n lyfli."
Daeth ei Mam allan i Dwrci i fod gyda hi.
"Ro'n i'n gafael yn yr hogan bach yma ac roedd hi'n bedwar mis oed; roedd ganddi wallt du a llygaid mawr brown a bochau tew…
"Wedyn oedd Mam yn gafael yn yr hogyn bach yma o'r enw Mohammed ac roedd o'n bum mis a hanner ac roedd ganddo drwyn budr gwyrdd a'i ddwy lygad wedi croesi a chicken pox scars ar hyd 'ddo.
"Ond pan ddaru o agor ei lygaid a gwenu arnan ni, O! O'dd o'n deimlad mor ffantastig a ddaru Mam ddeud 'O Carren sbïa ar hwn, sbïa del ydi hwn' a dyma hi'n roi o imi a ddaru hi gymryd Shweda [y ferch fach] a ddaru ni syrthio mewn cariad efo'r ddau ohonyn nhw."
Wedi tri mis o fyw yn Diyarbakir yn bwydo'r ddau fabi bach, edrych ar eu holau, chwarae efo'r plant eraill a chael eu cyfweld gan weithwyr cymdeithasol, daeth y diwrnod i nôl y plant a chael mynd nôl i Marmaris lle roedd popeth wedi ei baratoi ar eu cyfer.
Ond pan gyrhaeddon nhw roedd pethau wedi newid.
"Dyma nhw i mewn a dweud yn anffodus ein bod ni ddim ond yn gallu mynd ag un a'n bod ni'n gorfod penderfynu oddi mewn ryw bum munud fach. Wedyn ein bod ni'n cael yr un oeddan ni'n ddewis ac yn gadael yn syth.
"Roedd yn sioc fawr inni," meddai Carren oedd yn credu y byddai'n well i'r bachgen bach gael ei fabwysiadu.
Dywedodd pobl y cartref wrthyn nhw fod merched yn cael eu mabwysiadu yn gynt gan fod pobl yn teimlo y gallan nhw roi bywyd gwell iddyn nhw am fod bywyd yn haws i ddynion ifanc oedd yn gadael y cartref yn 18 oed nag oedd i ferched ifanc heb deulu.
Roedd ei gŵr hefyd eisiau mynd â'r bachgen oherwydd fod ganddo broblemau gyda'i lygaid oedd yn ennyn ei gydymdeimlad gan fod ei dad yntau yn ddall.
"Ddaru ni benderfynu mewn pum munud i fynd â Bedri… y penderfyniad gorau wnes i!" meddai Carren sy'n credu mai'r rheswm dros gael dewis un yn unig oedd am ei bod yn fam newydd ddi-brofiad.
Wedyn y cafodd hi'r stori ryfeddol am sut daeth Bedri i'r cartref plant:
"Roedd yr hogyn bach yma, 15 oed, ar ei ffordd i'r ysgol, yn meddwl bod o'n clywed cath fach yn crïo yn y bocsys yma wrth ochr y ffordd. Dyma fo'n edrych drwy'r bocsys, drwy'r sbwriel, ac roedd yna fabi bach mewn bocs, mewn blanced.
"Roedd 'na blisman yn helpu efo traffig wrth ochr y ffordd a dyma'r hogyn bach yma mewn sioc yn galw'r plisman draw a dyma nhw yn brysio Bedri i'r ysbyty."
Cafodd ei enwi'n Mohammed gan y plismon ond dewisodd Carren a'i gŵr enw Cwrdaidd iddo, sef Bedri, oedd hefyd yn swnio'n Gymreig i Carren.
Fe gafodd lawdriniaethau i gywiro'r nam oedd ar ei lygaid.
Adref i Gymru
Er eu llawennydd o ddod yn rhieni, wnaeth y briodas rhwng Carren a'i gŵr ddim para.
Erbyn hynny roedd Carren eisiau dod nôl i Gymru gyda Bedri ond fe gymerodd bedair blynedd arall iddi allu gwneud hynny gan fod ei gŵr yn gwrthod cwblhau'r mabwysiadu os na fyddai Carren yn dod nôl ato.
"Roedd hi'n amser drwg iawn… o'n i ddim yn gallu aros yn y briodas," meddai.
"... roedd o'n cau cwblhau'r mabwysiadu ac o'n i'n methu gadael y wlad."
O'r diwedd cytunodd wedi i Carren erfyn arno ac roedd hi'n hedfan nôl i Gymru gyda'i mab.
Setlon nhw nôl ym Mhenrhyndeudraeth lle bu Carren yn rhedeg tafarn am gyfnod; yno mae Bedri wedi cael ei fagu hyd at ddwy flynedd yn ôl pan gyfarfu Carren â'i phartner newydd, Giles, a symudodd y ddau ato i fyw yn Carew, Sir Benfro.
Wedi blynyddoedd o beidio bod eisiau mynd nôl i Dwrci na siarad Twrceg (Cymraeg yw iaith gyntaf Bedri) mae wedi penderfynu eleni am y tro cyntaf ei fod eisiau mynd yno am wythnos yn yr haf i weld ei dad a'i deulu.
"A dwi mor hapus am hynna," meddai Carren. "Dwi 'di bod yn dweud wrtha fo am hanes Twrci, dani'n edrych ar ffilms Turkish, mae na fiwsig Turkish yn y tŷ yn cael ei chwarae yn aml felly mae o'n prowd iawn i ddod o Turkey, er ei fod yn galw ei hun yn Gymro… ond mae'n prowd hefyd ei fod yn Dwrc."
Meddwl am y babi yn y bocs
Mae Bedri wedi cael cyfnodau o iselder, yn enwedig dros gyfnod y pandemig a symud i ardal newydd, ond hefyd oherwydd bod plant eraill yn yr ysgol wedi ei bryfocio am ei bwysau ac am liw ei groen a'i dras.
Fe wnaeth ymateb i hynny drwy ddechrau bocsio a chymryd diddordeb mewn maeth a iechyd meddai Carren - mae'n gobeithio astudio maetheg a chwaraeon er mwyn gallu helpu pobl eraill yn y maes hwnnw.
Gofynnodd Beti George i Carren a oedd Bedri yn ddiolchgar iddo gael ei fabwysiadu ganddi?
"Dwi'n gobeithio nad ydi o ddim yn ddiolchgar oherwydd ddylai dim un plentyn fod yn ddiolchgar am gael cartref saff, bywyd iach a cariad," atebodd.
"Ond mae o yn meddwl o ble ddoth o. Roedd o ychydig bach yn isel yn ystod Covid ac yn methu ei ffrindiau. Roedd o'n dweud mai'r peth oedd yn cadw fo i fynd oedd meddwl am y babi yna yn y bocs - 'Ddaru'r babi yna fyw Mam, mae'r babi yna yma rŵan, dyna be sy'n cadw fi i fynd, mod i yma i fyw."