Podlediad £32,000 y llywodraeth yn 'wastraff arian'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu podlediad sy'n cynnwys y Prif Weinidog fel gwestai, a gostiodd £32,000 i Lywodraeth Cymru, fel "gwastraff arian".
Talodd Llywodraeth Cymru am 10 pennod o Datgloi: Straeon COVID o Gymru.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu gweinidogion am beidio â bod yn dryloyw ynglŷn â sut mae'r gyfres - sy'n cynnwys Mr Drakeford yn amddiffyn ei record ar Covid - yn cael ei hariannu.
Daeth beirniadaeth hefyd gan Blaid Cymru ynglŷn ag amseriad cyhoeddi'r podlediad yn ystod yr ymgyrch etholiadau lleol.
Nid oedd Llywodraeth Cymru am ymateb i'r feirniadaeth.
'Wedi cadw Cymru'n ddiogel'
Yn ôl deunydd hyrwyddo'r podlediad bydd y cyflwynydd Dot Davies, sydd hefyd yn cyflwyno rhaglenni ar y BBC, yn "clywed gan ystod o bobl nodedig" ar draws Cymru.
Yn ei gyfweliad, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn bosibilrwydd "go iawn" y gallai Cymru fod wedi rhedeg allan o beiriannau anadlu yn ystod Ebrill 2020, neu na fyddai anwyliaid wedi gallu claddu'r rhai a fu farw.
Dywedodd fod ei ddull o leddfu cyfyngiadau wedi "cadw Cymru'n ddiogel" ac nad oedd "dim byd tebyg i'r lefelau o bobl yn mynd yn sâl yr ydych chi wedi'u gweld mewn rhai rhannau o Loegr" yn ystod ton Omicron.
"Dyna pam bod gennym ni'r cyfraddau isaf o'r coronafeirws mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig heddiw."
'Dim sôn' am arian Llywodraeth Cymru
Nid yw'n glir pryd y cafodd y podlediad, a gyhoeddwyd ddydd Llun, ei recordio.
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod un o bob 13 o bobl yng Nghymru wedi cael Covid yn yr wythnos hyd at 2 Ebrill, yn debyg i un o bob 13 yn Lloegr a'r Alban ac un o bob 16 yng Ngogledd Iwerddon.
Does dim sôn ar y podlediad ei hun, na'r disgrifiad o'r bennod, ei fod yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Recordiwyd pum pennod yn y Gymraeg a phump yn Saesneg, gan gostio £31,984 i'w cynhyrchu, gyda Mr Drakeford yn ymddangos yn y ddwy iaith.
Cafodd natur y cynhyrchiad ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymholiadau gan BBC Cymru i swyddfa'r wasg ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd: "Cafodd COVID-19: straeon o Gymru' ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymgyrch Cadw Cymru'n Ddiogel."
'Gwrandawyr yn talu'r bil'
Ond mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Fel y gwelsom yn ystod y pandemig pan fyddai Mark Drakeford a'i weinidogion yn annerch y cyfryngau cyn y Senedd y maen nhw'n honni eu bod yn caru, nid yw tryloywder yn rhywbeth y mae gan Lafur ddiddordeb ynddo.
"Felly, nid yw'n syndod gweld bod degau o filoedd o bunnoedd o arian trethdalwyr bellach wedi'i wario ar bodlediad i gadw pobl yn ddiogel - dwy flynedd ar ôl i'r pandemig ddechrau ac ar ôl i'r mwyafrif o bobl gael tri brechiad - heb wneud hi'n glir y bydd gwrandawyr yn talu'r bil.
"Yr hyn ddylai Llafur fod yn ei wneud i gadw Cymru'n ddiogel yw sortio rhestrau aros y GIG sydd ar eu hiraf erioed."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae yna ddau fater - un yw'r egwyddor bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian cyhoeddus i greu podlediad sydd ddim yn eu crybwyll ond eto'n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r Prif Weinidog fel 'gwestai arbennig'; yr ail yn ymwneud ag amseru.
"Mae'r Prif Weinidog yn ganolog i ymgyrch etholiadau lleol Llafur, ac mae'n syndod bod podlediad sy'n cynhyrchu straeon cadarnhaol yn y wasg am arweinydd y blaid wedi cael ei dalu amdano gan Lywodraeth Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2022