Covid: Cyfnod rhyfeddol yn hanes datganoli?
- Cyhoeddwyd
Dwy flynedd. Tua 200 o gynadleddau i'r wasg. Ond a yw'r cyfan, o'r diwedd, yn dod i ben?
Bydd gwaddol Covid yn effeithio ar bron bob rhan o'n bywydau am flynyddoedd i ddod.
Ond ni ellir pwysleisio digon pa mor rhyfeddol oedd y cyfnod yma yn hanes datganoli.
Fe wnaeth y cynadleddau rheolaidd hynny i'r wasg ynghyd â maint y penderfyniadau a wnaed gan weinidogion roi llwyfan, na welwyd erioed o'r blaen, i Lywodraeth Cymru a'r prif weinidog.
Fe gynyddodd nifer y rhai a ddaeth i wybod pwy oedd Mark Drakeford a statws datganoli i lefelau digynsail o uchel.
Ond wrth i'r argyfwng iechyd cyhoeddus gilio, a yw'r ffocws a'r sylw hwnnw ar wleidyddiaeth y Senedd hefyd yn cilio?
Mawrth y 23ain, 2020
Ar sgriniau teledu ledled y wlad, roedd gan Boris Johnson neges na fyddwn ni'n ei hanghofio: "O'r noson hon mae'n rhaid i mi roi cyfarwyddyd syml iawn i bobl Prydain - rhaid i chi aros gartref."
Rheolau penodol i Gymru
Ond fe wnaeth penderfyniadau technegol, cyfreithiol a wnaed yn San Steffan ar ddechrau'r pandemig ynghylch pa gyfraith i'w defnyddio droi be allai wedi bod yn ymateb Covid ar draws y DU i un dan arweiniad pob un o'r pedair gwlad.
Mae'n swnio'n dechnegol ac yn sych. Ond mae yna goblygiadau gwleidyddol enfawr i'r penderfyniad cychwynnol hwnnw.
Wrth siarad â BBC Politics Wales ar ôl y gynhadledd newyddion Covid ddiwethaf, bu'r Prif Weinidog Mark Drakeford AS yn ystyried y penderfyniad cychwynnol hwnnw: "Roeddwn i'n meddwl yn y dechrau bod llywodraeth y DU yn fwy tebygol o ddibynnu ar ddeddfwriaeth, sy'n delio â deddfwriaeth frys, sy'n berthnasol i'r DU gyfan.
"P'un a oedden nhw yn rhagweld i ba raddau y byddai hynny'n golygu bod penderfyniadau allan o'u dwylo ac yn nwylo deddfwrfeydd etholedig mewn mannau eraill, wel rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn agored," ychwanegodd.
Mae'r Prif Weinidog yn unoliaethwr sy'n credu mai aros yn rhan o'r DU yw'r peth gorau ar gyfer dyfodol Cymru.
Ond mae Mark Drakeford am weld perthynas wahanol fel bod gan pedair gwlad y DU reolaeth fwy uniongyrchol.
Dyw y sefyllfa hon ddim yn rhy annhebyg i'r hyn welon ni yn ystod y pandemig.
Rhai penderfyniadau ariannol yn bennaf, a wnaed ar lefel y DU, tra bod gan Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon reolaeth dros benderfyniadau iechyd cyhoeddus.
Mewn Undeb mae nerth?
Mewn cyfweliad diweddar gyda Times Radio, dywedodd cynrychiolydd Cymru ar fwrdd cabinet llywodraeth y DU ei fod yn dymuno y byddai Covid wedi cael ei ddelio "fel mater y DU".
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart AS: "Pan edrychaf yn ôl arno, rwy'n credu ei fod yn drueni ei fod bron yn gystadleuaeth wleidyddol ar adegau. Yr oeddwn yn meddwl bod hynny braidd yn frawychus.
"P'un a ydych chi'n unoliaethwr fel fi neu ei fath e [Mark Drakeford] o unoliaethwr, wrth gwrs, mae'n ddarlun sy'n esblygu drwy'r amser.
"Roeddwn i wir yn meddwl mai un o'r enghreifftiau gorau o gryfder yr undeb oedd y rhaglen frechu.
"Lle dwi'n rhyw fath o ymwahanu ychydig oddi wrth farn Mark Drakeford am yr undeb yw'r berthynas mae wedi ei ffurfio... rhyngddo ef ac [arweinydd Plaid Cymru] Adam Price, rwy'n credu sy'n ddadlennol iawn gan fod Adam Price yn disgrifio'r trefniant y mae wedi'i gael gyda Mark Drakeford fel y cam cyntaf... ar hyd y ffordd i Gymru annibynnol," ychwanegodd.
Dyfodol datganoli
Gydag un sedd yn brin o fwyafrif cyffredinol yn y Senedd, tarodd Llafur Cymru fargen gyda Phlaid Cymru i gydweithio ar rai polisïau dros y tair blynedd nesaf.
Mae'r ddwy blaid, mwyafrif clir, am weld newidiadau pellach i ddatganoli.
Go brin y bydd yna fwy o Aelodau o'r Senedd dros y blynyddoedd nesaf ac efallai bydd system pleidleisio newydd.
Ond pa mor debygol yw hi y bydd yna fwy o bwerau'n cael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd?
Dywedodd Ruth Mosalski, Golygydd Gwleidyddol WalesOnline: "Mae pobl wedi gweld bod Cymru'n gallu gwneud pethau ar ei phen ei hun... a yw hyn yn mynd i arwain at fwy o sgyrsiau am bwerau datganoledig pellach?
"Ry'n ni'n clywed yn aml yma [yn y Senedd] bod pobl eisiau i gyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli, er enghraifft.
"A fydd hynny'n digwydd? Wel, dyw llywodraeth y DU ddim am iddo ddigwydd felly mae'n annhebygol
"A bydd yna densiwn diddorol iawn yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf wrth i Mark Drakeford barhau i wneud y pwynt hwnnw, 'dylem gael mwy o bwerau datganoledig, rydym wedi gwneud y peth iawn, rydym wedi dangos beth allwn ni ei wneud'.
"Ond os nad yw llywodraeth y DU eisiau hynny, nid yw'n mynd i ddigwydd yn fuan.
"Sut ydych chi'n adeiladu ar hynny heb unrhyw gonsensws rhwng y ddwy lywodraeth?"
Yn etholiad y Senedd y llynedd, fe gynigiodd Plaid Cymru refferendwm annibyniaeth i Gymru erbyn 2026.
Ond ers i Blaid ddod yn drydydd, mae arweinydd y blaid bellach yn dweud y bydd annibyniaeth yn cymryd "mwy o amser nag y bydden ni'n gobeithio".
Dywedodd Adam Price wrth raglen Politics Wales: "Mae'n ymddangos bod agwedd y rhan fwyaf ohonom, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, tuag at ddemocratiaeth Gymreig wedi newid yn ystod y pandemig.
"Roeddem yn falch yng Nghymru bod gennym lywodraeth ein hunan yn gwneud penderfyniadau a oedd yn atseinio mwy ar gyfer pobl yma o'i gymharu â chyflwr truenus gwleidyddiaeth yn San Steffan.
"Rwy'n credu bod rhywbeth dwfn a sylfaenol wedi newid yn yr enaid gwleidyddol Gymreig," ychwanegodd.
Os yw hynny'n gywir, mae'r lefel o sylw yn y cyfryngau i'r Prif Weinidog wedi chwarae rhan enfawr yn y newid hwnnw.
Agweddau yn newid
Mae ymchwil gan OFCOM yn awgrymu, dolen allanol bod adroddiadau ledled y DU ar ddatganoli wedi cynyddu o ganlyniad i Covid-19, gyda "thua 40% o'r agenda newyddion" yn berthnasol i ddatganoli.
Ond a fydd y lefel honno o sylw a ffocws ar ddatganoli yn parhau?
Dywedodd yr Athro Stephen Cushion, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd: "Roedd Covid yn stori newyddion fawr bryd hynny ac roedd penderfyniadau gwahanol... ledled y DU.
"Roedd yn rhaid iddyn nhw roi hynny mewn cyd-destun ac egluro'r gwahaniaethau.
"Roedd y cyfweliadau a wnes i gyda golygyddion efallai'n dangos mwy o ymwybyddiaeth nag ychydig flynyddoedd yn ôl ynghylch y gwahaniaethau gyda datganoli.
"Ond efallai y bydd y graddau y mae'n cael ei archwilio'n fanwl oherwydd ei bwysigrwydd i olygyddion newyddion yn gostwng," ychwanegodd.
O safbwynt sylw yn y cyfryngau, mae wedi bod yn wirioneddol ddigynsail, gyda gweinidogion Cymru ar adegau yn cyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang.
Mae Mark Drakeford yn credu y bydd y ffaith bod y "pandemig wedi newid safbwyntiau pobl am y ffordd mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu yn golygu y bydd rhywfaint o ddiddordeb o hyd."
Y naill ffordd neu'r llall, mae yna goblygiadau gwleidyddol.
Gall fod yn anodd barnu pwysigrwydd hanesyddol digwyddiadau gwleidyddol wrth iddyn nhw ddigwydd.
A fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar y pandemig fel trobwynt, adeg pan symudodd gwleidyddiaeth Cymru i le gwahanol.
Neu wrth i bobl barhau â'u bywydau arferol a fydd pethau'n parhau fel o'r blaen?
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020