Cwpan Her Ewrop: Saracens 40-33 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd y Saracens i drechu Caerdydd i sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop.

Roedd hi'n edrych ar un adeg fel y gallai Caerdydd hawlio buddugoliaeth gofiadwy, wrth iddyn nhw sgorio tri chais.

Ond roedd y tîm cartref yn rhy gryf yn y diwedd, gyda'r Cymro Aled Davies yn ddylanwadol fel mewnwr i Sarries.

Sgoriodd Dom Morris gais cyntaf y gêm i Sarries cyn i Tomos Williams daro'n ôl a chreu un i Owen Lane i godi gobeithion Caerdydd.

Fe sgoriodd Max Malins un, a Sean Maitland ddwywaith, cyn i Rhys Carre grafu dros y llinell yn hwyr i roi diweddglo diddorol i'r dorf, ond daliodd Saracens eu gafael.

Pynciau cysylltiedig