Arestio aelod o staff nyrsio Maelor wedi honiadau cam-drin

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty MaelorFfynhonnell y llun, Google

Mae aelod o staff nyrsio Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau bod cleifion wedi cael eu cam-drin yno.

Cafodd yr heddlu eu galw gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddiwedd mis Mawrth wedi i bryderon gael eu codi ynghylch claf bregus oedd dan ofal gwasanaethau'r henoed.

Nid yw'r bwrdd iechyd na'r heddlu wedi cyhoeddi unrhyw fanylion am yr honiadau.

Ond mae BBC Cymru yn deall bod claf oedd wedi baeddu gwely wedi cael ei ffilmio gan aelod o staff, a bod y fideo wedi cael ei rannu yn ddiweddarach mewn grŵp ar WhatsApp.

Yn ôl swyddogion yr heddlu, mae'r person gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

'Camdriniaeth bosibl'

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Ar ddydd Iau, 24 Mawrth, derbyniom adroddiadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ddigwyddiad yn ymwneud ag aelod o staff nyrsio Ysbyty Maelor Wrecsam."

Roedd yr adroddiadau, meddai, yn sôn am "gamdriniaeth bosibl" tuag at gleifion, a "chamarfer" mewn swydd.

Ychwanegodd: "Cafodd yr unigolyn ei arestio mewn cysylltiad â'r adroddiad hwn ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad pellach fynd rhagddo.

"Mae'r bwrdd iechyd yn helpu swyddogion gyda'u hymchwiliadau ac rydym ni'n parhau i ymchwilio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cychwyn proses ddisgyblu fewnol

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n rhedeg Ysbyty Maelor Wrecsam, eu bod hefyd wedi cychwyn proses ddisgyblu fewnol ac wedi gosod mesurau i sicrhau diogelwch cleifion.

"Cawsom wybod yn ddiweddar am honiadau am aelod o staff yn ymwneud â chlaf bregus ac fe gyfeiriom ni'r mater at Heddlu Gogledd Cymru yn syth," meddai Gill Harris, dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr gweithredol gwasanaethau clinigol y bwrdd.

"Tra ein bod yn gweithio gyda'r holl awdurdodau perthnasol, mae hwn yn fater sydd dan ymchwiliad gan yr heddlu.

"Oherwydd hynny, ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."

Mae'r bwrdd iechyd wedi creu llinell gymorth i unrhyw un sy'n meddwl eu bod nhw wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad.