Chwe Gwlad Merched: Cymru 5-33 Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson anodd i Gymru wrth i Ffrainc sicrhau buddugoliaeth gyfforddus ar Barc yr Arfau nos Wener.
Daeth y cais gyntaf gan Laura Sansus wedi ond wyth munud o chwarae yn dilyn pwysau di-baid y Ffrancwyr o'r gic agoriadol.
Dyblwyd mantais y tîm oddi cartref wedi 20 munud gyda chic Jessy Tremouliere yn ychwanegu at gais Caroline Boujard.
Brin welwyd unrhyw chwarae yn hanner Ffrainc wrth i'r gleision ddominyddu, er amddiffyn penderfynol gan Gymru.
Diolch i geisiau pellach gan Chloe Jacquet ac ail un i Sansus, 26-0 oedd mantais y Ffrancwyr ar yr egwyl.
Ond rhwystrodd Cymru'r ymwelwyr i ond saith pwynt yn yr ail hanner gan hefyd sgorio cais dros eu hunain.
Wedi i Jessy Tremouliere sgorio pumed cais y Ffrancwyr, croesodd Sioned Harries y llinell i sicrhau cais haeddiannol yn yr eiliadau olaf, o flaen torf o 2,794.
Yn dilyn y gêm dywedodd capten Cymru, Siwan Lillicrap: "Yn yr ail hanner, ac yn enwedig y 10 munud olaf, fe ddangoson ni fwy o'r hyn rydyn ni'n gallu ei wneud. Mae'n rhaid i ni geisio gwneud hynny am yr 80 llawn.
"Mae'n rhaid i ni ddechrau'n well ond rydyn ni'n dangos cipolwg o'r hyn y gallwn ni ei wneud. Os gallwn ni glymu mwy o hynny at ei gilydd... fe allwn ni fynd o fod yn dîm da i dîm gwych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2022