'Bywyd yn Fêl': Creu atgofion wrth ysgrifennu dyddiadur

  • Cyhoeddwyd
bbc

Mae cadw dyddiadur yn hollbwysig i Eirianwen Stanford, sy'n byw ym Mhen-y-bont-ar-ogwr. Does dim diwrnod yn mynd heibio heb iddi gofnodi digwyddiadau'r dydd mewn llyfr bach, clawr caled, sy'n rhan o'i chasgliad o gyfrolau tebyg sy'n dyddio nôl i'r 1960au.

Cafodd Eirianwen ei magu yn Llanboidy a dechreuodd ysgrifennu'n ddyddiol yn bymtheg oed.

Cafodd ei hysbrydoli gan ei mam, ac yn cofio hi'n eistedd wrth y bwrdd yn cofnodi manylion y diwrnod, yn bennaf yn trafod hanesion ffarm y teulu. Roedd ganddi lawysgrifen fendigedig, wedi dysgu'r grefft o galigraffi gan ei thad:

"Gweld mam yn sgrifennu dyddiadur bob nos; dynwared Mam o'n i. Pan ddechreues i sgrifennu yn 1960, o'n i'n gwneud yn Saesneg - addysg drwy gyfrwng y Saesneg, a Saesneg oedd y cyfan, ond wedyn pan es i Goleg y Drindod a neud yr addysg drwy gyfrwng y Gymraeg o'n i'n sgrifennu yn y Gymraeg."

Rwtîn dyddiol

Yn ystod ei harddegau, ysgrifennodd Eirianwen gan amlaf am yr ysgol, y ffarm a'r capel bob Sul. Doedd na ddim byd cyfrinachol rhwng y cloriau, a daeth y dyddiadur yn fuan yn rhan o'i rwtîn ddyddiol:

"Basen i'n sgrifennu wrth wylio'r teledu; dim byd i neud gyda iechyd meddwl ar y pryd; ar hyd fy mywyd jest ysgrifennu… ysgrifennu fel se'n i'n meddwl, a jest rhoi'r cwbwl ar bapur."

Ail-fyw'r gorffennol

Doedd Eirianwen ddim yn trafod ei dyddiadur gyda'i ffrindiau ysgol, a doedd hi ddim yn ymwybodol bod unrhyw un arall yn ei dosbarth yn rhannu'r un diddordeb.

Fe wnaeth y dyddiaduro barhau tra'n fyfyrwraig yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, pan oedd hi'n canu gyda chôr Kaleidoscope "ac odd lot o gyngherddau; on i'n cael nosweithi llawen yn y coleg; o'n i'n mynd allan gyda chymdeithase neu o'n i'n mynd i siopa, neu rywbeth fel na…"

Disgrifiad o’r llun,

Dyddiadur cyntaf EIrianwen o 1960

Mae llu o atgofion melys ganddi o'r cyfnod hwn, pan oedd hi'n fyfyrwraig frwdfrydig, gymdeithasol, oedd yn mwynhau profiadau amrywiol a chyffrous. Pan aeth ar ymweliad â Llangrannog, buodd yn "nofio yn y môr… yn Lochtyn… odd bywyd yn fêl."

Ac roedd canfasio dros ymgeisydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, yn 1966 yn amlwg wedi creu effaith arni. Ar ôl iddo gael ei ethol fel Aelod Seneddol cynta'r blaid yng Ngorffennaf, ysgrifennodd Eirianwen yn ei dyddiadur:

"Etholiad. Gwynfor, aelod seneddol. Gwair ar y ffarm. Yn Llanboidy drwy'r dydd. Lan yn Gaerfyrddin. Dilyn Gwynfor drwy Gaerfyrddin. Yn Talar Wen yn yr hwyr [cartref Gwynfor]. Lan yng Nghaerfyrddin y diwrnod cyn i gynfaso Talog. Mas trw'r nos. Cyfarfod Gwynfor yn y hwyr… Allan gyda'r corn siarad. O bois bach!"

Cofio adegau hapus

Tôn bositif sydd i'r dyddiaduron ar y cyfan, yn croniclo manion bethau yn ogystal â digwyddiadau cofiadwy, fel swydd dysgu cyntaf Eirianwen ym Mhontycymer a genedigaeth ei mab Owain. Mae Eirianwen yn aml yn troi i'w hen ddyddiaduron er mwyn ail-fyw cyfnodau llawen, fel diwrnod ei phriodas â Dave Stanford ym mis Ebrill,1969:

"Y briodas - diwrnod gwlyb. Aeth popeth yn hwylus. Y diwrnod ar ôl 'ny hedfan o Rws am y Wlad Werdd, o'n ni'n mynd i Iwerddon. Wedyn Galway, match ar y teledu, Cymru 30, Lloeger 9."

Atgof hapus arall oedd cychwyn swydd brifathrawes ym Mracla, Pen-y-bont, a thra'n dysgu yno, yn derbyn gwahoddiad i ymweld â Siapan fel rhan o'r cynllun International Educators to Japan.

Marwolaethau rhieni

Ond yn ogystal â'r atgofion llon ymysg y tudalennau, mae yna dristwch hefyd. Bu farw tad Eirianwen yn 1982, a chafodd y fferm lle dyfodd i fyny ei gwerthu yn fuan wedyn.

Poenus hefyd oedd colli ei mam yn 1998, yn dilyn salwch hir, ond serch hynny, mae Eirianwen yn teimlo bod darllen ei dyddiaduron heddiw yn gysur, yn gwmni ac yn gyfle i ailgreu pob math o brofiadau:

"Pan dwi'n teimlo'n unig ambell awr, dwi'n mynd at y dyddiaduron, ac ai mewn i edrych ble wen i ugain mlynedd i heddi, pryd digwyddodd so and so?"

Dyddiadur yn ffrind ac yn helpu iechyd meddwl

Ers ymddeol yn y flwyddyn 2000, mae Eirianwen wedi parhau'n brysur. Mae'n canu gyda Chantorion Coety a chôr Capel y Tabernacl, Pen-y-bont, ac yn aelod o Merched y Wawr a'r capel.

Er mwyn cadw'n drefnus, mae'n nodi ymarferion, digwyddiadau, a phenblwyddi teulu a ffrindiau yn ei dyddiadur:

"…ma rhaid i fi gael dyddiadur ym mis Medi - peidwch a rhoi i fi i'r Nadolig. Paratoi gogyfer y flwyddyn newydd."

Mae Eirianwen yn credu'n gryf bod ysgrifennu dyddiadur yn cadw ei meddwl yn siarp ac yn helpu'r cof. Gallai fyth a bod heb gyfrol o'r math, ac yn aml mae'n cofnodi ynddi sawl gwaith y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eirianwen yn credu bod cofnodi'n ddyddiol yn helpu iechyd meddwl

Mae Eirianwen yn credu hefyd bod cadw dyddiadur yn fuddiol i'w hiechyd meddwl, a does dim ots ganddi o gwbl os yw'r grefft erbyn hyn yn cael ei hystyried yn un hen ffasiwn.

Er ei bod yn defnyddio Facebook i bostio deunydd, dyw technoleg gyfoes heb ddisodli'r llyfr: "Mae na rywbeth am roi pen ar bapur sy'n golygu lot fwy i fi na sgrifennu mewn i tablet."

Cyfaill yw'r dyddiadur, meddai a "gallwch chi ddweud nawr bod e'n ffrind achos dwi'n lico 'istedd lawr a sgrifennu. Mae e'n gwmni."

Er nad yw'n teimlo'n hiraethus am y gorffennol, "mae'n hyfryd edrych nôl, cofio a chal rhyw flas o'r cyfnod, blas mawr", ac mae darllen cofnodion ei mam yn gwneud iddi deimlo'n agosach ati.

Mae'n anodd i Eirianwen ddychmygu cyfnod lle na fydd ganddi ei dyddiaduron, ond wrth edrych tua'r dyfodol mae'n cwestiynau beth fydd eu hynt yn y pen draw.

"Gallai byth â taflu nhw… o'n nhw'n golygu llawer i fi; ma nhw'n dal i olygu lot fawr i fi. Yn y diwedd, i'r skip fydden nhw gyd yn mynd, wel pwy sy isie rhain? Dyw e ddim yn golygu dim i neb. I fi ma rhain."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig