Gweilch: Dau yn ymddiheuro am fideo 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Callum Carson a Matthew AubreyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Callum Carson a Matthew Aubrey wedi ymddiheuro am eu gweithredoedd

Mae dau chwaraewr rygbi o Gymru wedi ymddiheuro ar ôl i fideo gael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol yn gwatwar person yn cysgu ar y stryd.

Roedd y fideo, a gafodd ei rannu ym mis Mawrth, yn dangos chwaraewr yn gorwedd ger person ar stryd. Mae lle i gredu mai yng Nghaerdydd y cafodd y fideo ei recordio.

Mae'r Gweilch wedi cyhoeddi enwau'r chwaraewyr - Callum Carson, 23 a Matthew Aubrey, 24 - a gafodd eu gwahardd tra'r oedd y rhanbarth yn cynnal ymchwiliad.

Fe ddywedon ym mis Mawrth bod ymddygiad y ddau yn y fideo yn "annerbyniol".

Bydd y ddau chwaraewr yn gorfod gwneud gwaith gwirfoddol gydag elusen digartrefedd Wallich.

Dywedodd y Gweilch bod y ddau wedi dangos edifeirwch am eu hymddygiad yn dilyn "proses ddisgyblu annibynnol lawn a thrylwyr" a bod y ddau wedi derbyn y "gosb ddisgyblu oedd wedi ei argymell".

'Embaras'

"Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro i'r person dan sylw am fy ymddygiad a fy niffyg parch tuag atynt," dywedodd y canolwr, Callum Carson.

"Yna, mae'n rhaid i fi ddweud sori wrth fy nheulu, fy ffrindiau, fy nghyd-chwaraewyr a'r Gweilch a'r cefnogwyr am yr embaras o ganlyniad i fy ngweithredoedd."

Fe ychwanegodd y mewnwr, Matthew Aubrey, ei ymddiheuriad gan ddweud ei fod yn "sori i bawb am yr hyn ddigwyddodd" ac nad oedd "esgus am ei weithredoedd".

"Dw i'n gwybod faint o straen ac embaras mae wedi achosi i bawb sy'n agos i fi a phawb sydd yn ymwneud â'r Gweilch.

Ym mis Mawrth, dywedodd Heddlu De Cymru wrth y BBC "nad oedd ganddynt wybodaeth ynghylch y digwyddiad".

Pynciau cysylltiedig