Morgannwg yn colli'n erbyn Middlesex

  • Cyhoeddwyd
Toby Roland-JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bowliwr Middlesex, Toby Roland-Jones, wnaeth serennu wrth gipio cyfanswm o wyth wiced yn y gêm

Wedi dechrau addawol, fe gollodd Morgannwg yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Sadwrn yn dilyn ychydig dros ddeuddydd o chwarae'n erbyn Middlessex.

Middlessex oedd yn fuddugol o un batiad ac 82 o rediadau.

Fe gollodd Morgannwg y pedair wiced olaf am 28 o rediadau.

Fe gipiodd bowliwr Middlesex, Toby Roland-Jones, gyfanswm o wyth wiced yn y gêm a Morgannwg allan am 132.

Mae Morgannwg wedi ennill un gêm, colli un a chael un gêm yn gyfartal hyd yn hyn.

Mae disgwyl ambell newid i'r tîm wrth iddyn nhw deithio i wynebu Derby ddydd Iau.

Pynciau cysylltiedig