Bywyd yn locdown 'sinistr' Shanghai
- Cyhoeddwyd
"Derbyniodd fy ffrind neges ryfedd gan rif dieithr - yr awdurdodau yn danfon llun CCTV ohonom yn yfed coffi ac yn gofyn iddi gadarnhau pwy oedd hi. Daeth yr hazmats,fel ry'n ni'n eu galw nhw bellach, i'w chasglu o fewn awr."
Dyma brofiad Mirain Dafydd, sy' wedi byw dan glo yn Shanghai ers cychwyn Ebrill, o fyw mewn gwlad sy'n dilyn polisi Zero Covid. Mae Mirain wedi byw a gweithio fel athrawes yn China ers tair mlynedd.
O brofi anifeiliaid i brinder bwyd, mae Mirain wedi rhannu ei stori gyda Cymru Fyw:
Ar nos Iau, Mawrth 10, 2022, ro'n i mas yn mwynhau pryd o fwyd gyda dau o'm cydweithwyr pan ddaeth neges gan bennaeth ein hysgol yn rhybuddio bod siawns y cawn ein galw i fynd i'r ysgol y noson honno am brawf Covid, ac i bacio bag dros nos rhag ofn.
Er bod y cysyniad o dreulio noson ar lawr ystafell ddosbarth yn rhyfedd i ddweud y lleiaf, doedd e ddim yn ormod o sioc i ni. Ers tua mis bues yn clywed am beth a elwir yn flash lockdowns ar hyd Shanghai. Yn syml, unwaith roedd rhywun yn profi'n bositif am Covid, roedd yr awdurdodau yn nodi'r llefydd buon nhw dros y dyddiau cynt, ac mewn rhai achosion yn danfon heddlu i gloi'r lle heb ots pwy oedd tu fewn.
'Cloi mewn ysgolion'
Disneyland Shanghai oedd un o'r achosion cyntaf, le cafodd miloedd o deuluoedd eu cloi i fewn am oriau er mwyn eu profi. Bu sawl ffrind yn ddigon anlwcus i gael eu cloi yn eu hysgolion gyda'r holl ddisgyblion am noson neu ddwy. Roedd i'w weld yn greulon i atal plant mor ifanc a phedair mlwydd oed rhag dychwelyd adref, ond doedd dim syniad gen i i'r fath raddau buasai pethau'n ffrwydro.
Dysgu ar-lein dwi wedi bod yn gwneud ers hynny. Ro'n i dal yn medru crwydro'n rhydd o amgylch y ddinas, gan wneud y gorau o'r strydoedd gwag - peth prin mewn dinas o dros 24 miliwn o bobl.
CCTV
Ar ôl bod yn rhedeg gyda ffrind aethon ni am goffi gyda dau arall tu fas oherwydd y rheolau llym am ymgasglu. Ro'n i'n gwisgo mwgwd, ond doedd fy ffrind ddim. Tridiau'n ddiweddarach, derbyniodd hi neges ryfedd gan rif dieithr - yr awdurdodau yn danfon llun CCTV ohonom yn yfed coffi ac yn gofyn iddi gadarnhau pwy oedd hi. Daeth yr hazmats, fel ry'n ni'n eu galw bellach, i'w chasglu o fewn awr.
Cadwyd hi mewn gwesty cwarantin am bythefnos, gan bod un o'r ddau fu'n cael coffi gyda ni wedi profi'n bositif, ac roedd hi'n cael ei chosbi am beidio gwisgo mwgwd. Ces i hefyd alwad yn hwyr y noson honno yn gorchymyn i mi bacio cês gan eu bod yn dod i fy nghasglu'r bore wedyn.
Y pryder mawr oedd gen i oedd diogelwch fy nghath, Margot. Ro'n i eisioes wedi ymuno â grŵp ar-lein, Pet Emergency Group gafodd ei greu yn sgîl y newyddion a'r fideos hollol erchyll o'r hazmats yn lladd anifeiliaid anwes rhai pobl oedd wedi profi'n bositif, ac yn anffodus nid gyda chwistrell ewthanasia. Pacies i fy nghês a threfnu i ffrind gasglu'r gath ben bore.
Aros ac aros fues i ond ddaethon nhw fyth, nac ateb y ffôn chwaith. Ro'n i'n falch gan bod fy mhen-blwydd y diwrnod canlynol!
Deuddydd wedyn, gwnaeth y llywodraeth gyhoeddiad sydyn eu bod am osod y ddinas mewn locdown llym, hanner y ddinas ar y tro. Ochr arall yr afon oedd gyntaf, gyda ychydig oriau yn unig i sicrhau bod digon o fwyd ganddynt am bum diwrnod.
Pan mae China yn defnyddio'r gair 'llym' maen nhw o ddifri - mae mwyafrif y cartrefi yn Shanghai yn rhan o gymdogaeth â giât a fel arfer gwarchodwr hefyd. Yn ystod y locdown yma, rydym wedi ein cloi tu fewn i'r gymdogaeth ac mae heddlu ychwanegol yn gwarchod y fynedfa.
Yn gaeth
Yn swyddogol, ar gychwyn y locdown doedd dim hawl gennym i groesi trothwy'r tŷ, dim hyd yn oed i fynd â chŵn na sbwriel mas. Roedd rhai o'm ffrindiau sydd â chŵn heb ddewis ond i'w hyfforddi i 'fynd' yn y gawod neu, os yn lwcus, ar y balconi.
Dwi'n byw mewn cymdeithas bach iawn mewn hen dŷ Ffrengig, a fy nghymydog yw'r gwarchodwr felly dwi'n lwcus i gael wynebau cyfeillgar a'r gallu i fynd â sbwriel i ffwrdd o 'nrws ffrynt. Dyw eraill ddim mor lwcus.
Pan gychwynodd ochr arall Shanghai (tua 15 miliwn o bobl) y locdown ar Ebrill 1af, y cynllun oedd i'w rhyddhau ar y pumed tra'n bod ni ar yr ochr arall yn dechrau ein pum diwrnod tu fewn. Ces i bedwar diwrnod i brynu digon o fwyd am y cyfnod. Mewn ffordd wnes i fwynhau'r sialens gan feddwl, dwi wedi bod i wersylla am bum diwrnod gyda llai o fwyd, bydd hyn yn iawn!
Er, roedd rhesymeg y peth yn wallgof - 'nath hyn wahodd miliynau o bobl i wthio ac ymladd am lysiau a phapur tŷ bach, ac os oedd y feirws yn lledaenu cynt, roedd hyn yn nefoedd iddo!
Erbyn hyn mae pethau wedi dod yn lot fwy sinistr. Mae prinder bwyd ledled y ddinas, yn enwedig ers i'r llywodraeth wahardd y rhan fwyaf o wasanaethau cludo. Ges i sioc mawr o weld pobl Tsieineaidd yn protestio - mewn gwladwriaeth awdurdodaidd sy'n byw dan reolaeth y Blaid Gomiwnyddol, mae'r fath beth yn brin ond hefyd yn gallu bod yn beryglus.
Prinder bwyd
Roedd pobl yn mynnu cael gafael ar fwyd i'w teuluoedd, sy'n anodd i'w amgyffred yn un o ddinasoedd cyfoethocaf y byd. Ymateb y llywodraeth oedd danfon bocs o fwyd i bob cartref heb ystyried sawl person sy'n byw yno.
Dwi wedi derbyn dau focs o'r fath mewn 18 diwrnod. Dwi'n lwcus mod i'n byw ar fy mhen fy hun, ac er i'r cypyrddau ddechrau edrych yn wag ar un adeg, mae gen i bellach lwyth o lysiau, reis a 44 ŵy! Dwi wedi bod yn piclo bresych fel y diawl er mwyn peidio gwastraffu dim byd!
Ond all teuluoedd ddim byw ar y bocsys yma'n unig, felly mae trigolion Shanghai wedi cymryd y mater i'w dwylo eu hun - does dim gwerth mewn arian ar hyn o bryd gan nad oes modd prynu fawr o ddim, dim hyd yn oed ar-lein gan bod neb yn cael postio i Shanghai.
Felly ni'n cyfnewid bwydydd - gan mod i'n lysieuwraig dechreues i swopio'r cig gan y llywodraeth am wyau gyda 'nghymdogion, sy'n dangos caredigrwydd mawr ataf, yr unig dramodwr yn fy nghymdeithas. Ond mae eu haelioni bellach yn felltith a minnau'n gwneud fy ngorau glas i storio 44 ŵy heb wastraffu'r un!
Datblygiadau gwallgof
Dwi wedi bod yn ceisio cwtogi'r amser dwi'n treulio ar fy ffôn, oherwydd mae rhyw ddatblygiad gwallgof bob dydd ac mae'n anodd peidio meddwl beth wneith yr awdurdodau nesaf. Mae naws annifyr pan mae drones yn hedfan heibio ffenestri gyda neges yn bloeddio i ddilyn rheolau, i beidio cwyno na chanu, ac i "resist your soul's desire for freedom".
Mae'n gallu teimlo fel un o raglenni Black Mirror ar adegau, ond dwi'n gweld cyferbyniad mawr rhwng rai o bobl Shanghai a'r awdurdodau. Bu helynt pan gafodd ambell adeilad eu weldio ynghau, gan gynnwys yr allanfa dân. Mae'r arlywydd wedi bod yn brolio am bolisi 'zero Covid' China ers misoedd, ond rhaid gofyn beth yw'r gost erbyn hyn.
Ers Ebrill 1af ry'n ni gyd yn aros mewn llinell ar bwys y gât er mwyn i'r hazmats blymio swab i lawr ein gyddfau bron pob bore. Pan mae bangio ar y drws am saith ar fore dydd Sadwrn mae'n anodd peidio teimlo fel mod i mewn rhyw fath o garchar.
'Does neb yn fy nghymdeithas wedi cael canlyniad positif, ond pythefnos ers beth ddylai 'di bod y 'diwrnod rhyddhau', roedd y giât yn dal ynghlo gyda thâp heddlu yn rhybuddio neb i ddod mewn na mas. Dwi heb gael esboniad, a dim ond llond llaw o bobl dwi'n nabod sydd wedi cael eu rhyddhau ers dechrau'r mis, a dywedodd un ffrind nad yw'n teimlo fel rhyddid gan bod unman ar agor i fynd iddo.
Dwi'n lwcus iawn i gael treulio'r cyfnod hollol afreal yma yn fy nghartref gyda'r gath, naill ai'n ysgrifennu, darllen neu'n rhoi cynnig ar rywbeth newydd fel peintio a hyd yn oed gwersi gitar ar-lein.
Er bod ffiniau China wedi cau bron yn gyfan gwbl ers Mawrth 2020, dydyn ni yn Shanghai erioed wedi cael profiad locdown o'r blaen, felly dwi'n dysgu lot gan ffrindiau nôl adref am sut i beidio colli 'mhen mewn sefyllfa o'r fath (er dyw'r ap Couch to 5k ddim yn opsiwn fan hyn).
Ond eto, dwi'n cydnabod 'mod i'n ffodus. Mae eraill wedi eu cludo gan yr hazmats i gyfleuster cwarantin enfawr o 15,000 gwely, sy'n edrych fel IKEA anferth. Mae'n debyg nad oes cawodydd, mae'r golau'n dallu pob awr o'r dydd, ac mae'r fideos o'r tai bach yn ddigon i godi cyfog.
Ar gychwyn y cyfnod clo, os oedd plentyn yn dal Covid a'r rhiant heb, roedden nhw'n cael eu gwahanu, ac roedd y lluniau o fabis yn llefain tri mewn un cot yn yr ysbytai gorlawn yn dorcalonnus.
Hiraeth
Felly, ydw, dwi'n gweld eisiau fy ffrindiau. Ydy, mae'n biti bod y gwanwyn mor wych o braf mewn dinas sydd fel arfer yn llawn bywyd, a ninnau'n sownd tu fewn am pwy a wŷr faint hirach.
Dwi'n hiraethu am y caffis bach trendi a chael coctêl ar do rhyw skyscraper ffasiynol, neu bicnic yn un o'r parciau mawr blodeuog. Ond dwi'n ystyried fy hun yn hynod o lwcus o ystyried mor wael a pheryglus yw'r sefyllfa i rai - dwi'n iach, yn cadw'n brysur a neb ond Margot yn dibynnu arna i.
Mae Shanghai wedi bod yn gartref cyffrous, yn llawn cyfleoedd i fod yn greadigol ac i dyfu fel person dros y tair mlynedd diwethaf. Mae'n biti 'mod i nawr yn cyfri'r dyddiau nes bod yr awyren yn fy nghludo i nôl i Gymru, a well bod 'na ddim bresych ar gyfyl y lle.