Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 54-36 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Y Gweilch oedd yn fuddugol wedi gêm llawn cyffro yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddydd Sadwrn, gan guro'r Scarlets o 54-36.
Sam Costelow enillodd bwyntiau cynta'r gêm i'r Scarlets gyda chic gosb wedi chwe munud - ond o fewn deg munud roedd y Gweilch wedi taro'n ôl gyda'r trosgais cyntaf.
Y Scarlets oedd ar y blaen o 24-14 erbyn yr egwyl, wedi i'r Gweilch sicrhau un cais ychwanegol o'i gymharu â thri y Scarlets.
Roedd yr ail hanner yr un mor egnïol â'r cyntaf, gyda'r Gweilch yn ennill tri throsgais yn y chwarter awr cyntaf.
Er i'r Scarlets sgorio dau gais ac un trosiad pellach, fe wnaeth y Gweilch sicrhau buddugoliaeth o 54-36 drwy gipio tri throsgais pellach.
Fe wnaeth Nicky Smith, Morgan Morris, Keelan Giles, Dewi Lake (2), Michael Collins, Owen Watkin a Sam Parry ennill ceisiau i'r Gweilch. Llwyddodd Gareth Anscombe i drosi saith o'r wyth.
Gareth Davies, Ryan Conbeer (3), a Kieran Hardy sgoriodd geisiau'r Scarlets , gyda Sam Costelow a Rhys Patchell yn eu trosi - fe wnaeth Costelow hefyd sgorio cic gosb.