Y pêl-droediwr David Brooks yn 'glir o ganser'
- Cyhoeddwyd

Mae David Brooks wedi ennill 21 o gapiau i Gymru
Mae chwaraewr pêl-droed Cymru a Bournemouth David Brooks wedi datgelu ei fod bellach yn glir o ganser wedi triniaeth.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Wythnos diwethaf fe welais i fy arbenigwr... Nawr mi allai ddweud fy mod yn glir o ganser."
Cafodd Brooks, 24, ddiagnosis o Lymffoma Hodgkin ym mis Hydref 2021 ac ym mis Ionawr eleni dywedodd fod y dyfodol yn addawol wedi iddo gwblhau hanner ei driniaeth.
Mae Brooks wedi ennill 21 o gapiau i Gymru ers iddo chwarae ei gêm gyntaf i'w wlad yn 2017.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Adeg ei ddiagnosis fe ddiolchodd Brooks yn benodol i dîm meddygol Cymru am ymateb mor gyflym, a dywedodd bod hynny wedi bod yn gymorth i ganfod y salwch.
Fe chwaraeodd Brooks ddiwethaf ar 29 Medi i Bournemouth yn erbyn Peterborough.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2021