Cwymp 'sylweddol' yn y nifer sy'n astudio'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Llyfr Gwerthfawrogi'r Chwedlau

Mae cwymp "sylweddol" wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg mewn prifysgolion, gyda'r ffigwr wedi bron â haneru mewn degawd.

Yn ôl pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n "ddarlun pryderus", sy'n rhybuddio y gallai adrannau Cymraeg fod dan fygythiad yn y dyfodol os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud i wella'r sefyllfa.

"Yn draddodiadol byddai Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe wedi denu tua 20 o fyfyrwyr yn flynyddol - dyna'r norm blynyddoedd yn ôl," meddai'r Athro Gwynedd Parry.

"Ond dros amser mae'r niferoedd hynny bron wedi haneru. Mae'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn wrth gwrs ond o siarad yn gyffredinol, rydyn ni'n sôn am haneru.

"Mae'r haneru yna yn y cyd-destun yn ostyngiad sylweddol, felly mae'n ddarlun pryderus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r duedd o ran niferoedd yn destun pryder, medd yr Athro Gwynedd Parry

Yr un yw'r duedd mewn adrannau Cymraeg eraill yng Nghymru.

Ym Mhrifysgol Bangor, 19 o fyfyrwyr oedd yn dechrau cwrs gradd israddedig yn 2011, tra bod y ffigwr hynny wedi gostwng i 10 o fyfyrwyr eleni.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd 50 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn astudio'r Gymraeg ddegawd yn ôl. 30 oedd y ffigwr eleni.

Ac ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd 48 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn dilyn y pwnc yn 2011, erbyn heddiw mae'r ffigwr i lawr i 23.

Adrannau 'wedi addasu'

Yn ôl sawl un o'r adrannau Cymraeg, mae 'na gamau wedi'u cymryd dros y blynyddoedd i addasu'r cwrs er mwyn denu mwy o fyfyrwyr.

O fis Medi ymlaen, bydd Prifysgol Bangor yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr newydd ddilyn "talp helaeth o'r cyrsiau MA a BA (Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol) ar-lein."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dan drefn newydd o fis Medi ymlaen fe fydd myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor yn gallu astudio rhan o'r cyrsiau ar-lein

"Rydym yn ymwybodol nad pawb sy'n gallu dod i ddarlithoedd a seminarau 'yn y cnawd'," meddai Dr Aled Llion Jones, pennaeth yr adran.

"Mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd teithio, ac mae gan eraill ddyletswyddau gwaith neu ddyletswyddau gofalu, er enghraifft.

"Dyna pam rydym wedi penderfynu cynnig ein cyrsiau MA a BA (Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol) ar-lein o fis Medi ymlaen, er mwyn i bobl o bob oedran a chefndir allu manteisio ar ein darpariaeth mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw, yn llawn amser neu'n rhan amser."

Oes angen ailwampio cyrsiau?

Mae'n broblem sy'n dechrau yn yr ysgol, gyda chwymp wedi bod hefyd yn y nifer sy'n dewis astudio Cymraeg Safon Uwch neu Lefel A ar ôl cwblhau TGAU.

Roedd 304 yn astudio Cymraeg Lefel A yn 2008 a 2009. 231 o ddisgyblion oedd yn astudio'r pwnc rhwng 2020 a 2021.

O ran myfyrwyr Lefel A Cymraeg Ail Iaith, mae'r ffigwr wedi disgyn o 489 i 195 yn yr un cyfnod.

Oes angen ailwampio'r cwrs TGAU a Lefel A felly? Ymhlith myfyrwyr Safon Uwch Cymraeg Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth, roedd y farn yn gymysg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna wahaniaeth barn ymhlith rhai o ddisgyblion Safon Uwch Ysgol Bro Hyddgen wrth drafod cynnwys cyrsiau Cymraeg

"Dwi'n meddwl bydd o'n ddiddorol moderneiddio'r cwrs Cymraeg ond bydd o'n bwysig i bobl yn y blynyddoedd nesaf i ddysgu am yr hen bethau a'r oesoedd canol," meddai Cerys.

Mae Mari yn mwynhau'r cwrs Lefel A, a dyw hi ddim yn gweld bod angen addasu. "Mae lot o bethau gwahanol, lot o bethau diddorol iawn ynddo fo," meddai.

Ond mae Non yn meddwl bod angen moderneiddio. "Dwi'n meddwl bod angen rhoi mwy o nofelau cyfoes [yn y cwrs] ond fe wnes i wir fwynhau astudio Un Nos Ola' Leuad gan Caradog Prichard," meddai.

Dywedodd Branwen: "Rydyn ni'n 'neud yr Hengerdd a'r Cywyddau, a dwi'n mwynhau rheina achos rydyn ni hefyd yn dysgu am nodweddion hanesyddol."

'Cerddi boring a dim digon o fenywod'

Mae Tesni Peers wrth ei bodd yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ond mae llawer am y cwrs yn yr ysgol y byddai'n newid hefyd.

"Mae 'na lot o nofelau rŵan fel Llyfr Glas Nebo a Tu ôl i'r Awyr, mi fasa'n nhw'n ideal i astudio oherwydd maen nhw'n fodern ac maen nhw'n heriol ar yr un adeg," meddai.

Ffynhonnell y llun, Tesni Peers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tesni Peers yn mwynhau ei chwrs ond byddai hi'n croesawu ambell newid

"Roedd Un Noson Ola' Leuad yn ffab a dwi ddim yn difaru darllen hwnna o gwbl, a nes i fwynhau rhai o'r cerddi [yn y cwrs TGAU], ond roedd 'na rai eraill oedden i'n meddwl 'mae hyn yn boring'.

"Hefyd dim ond llond llaw o fenywod sy'n cael ei hastudio, pan mae 'na lot fawr o gerddi dylsa' cael eu hastudio yn yr ysgol."

'Cymell myfyrwyr i fynd dros y ffin'

Mae angen edrych eto ar elfennau o'r cwrs TGAU, ym marn yr Athro Gwynedd Parry, ond mae e o'r farn fod rhesymau eraill tu ôl i'r dirywiad.

"Mae 'na negeseuon sydd i raddau yn pwyso ar bobol ifanc i astudio pynciau gwyddonol. Mae 'na negeseuon yn eu cymell nhw i astudio dros y ffin," meddai.

"Fe wyddwn ni o hanes y gorffennol, os ydy pwnc yn methu denu myfyrwyr mewn nifer digonol, yna mae dyfodol y pwnc yna yn mynd i fod dan fygythiad.

"Ar hyn o bryd, does 'na ddim adran y gwn i amdani o dan fygythiad. Ond os ydyn ni'n llaesu dwylo ac yn mynd yn ddifater, yna pwy â ŵyr maes o law, y bydd yr hinsawdd yn newid?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi derbyn arian i "wrthdroi'r dirywiad", medd Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael £125,000 y flwyddyn dros y tair blynedd ddiwetha' i "wrthdroi'r dirywiad".

"Mae'r cyllid hwn yn helpu i gefnogi ysgolion i gynnal dosbarthiadau Safon Uwch llai o faint, darparu cyfleoedd cyfoethogi i ddysgwyr a hyrwyddo dilyniant yn y pwnc," meddai llefarydd.

"Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol i weithlu'r dyfodol, yn enwedig mewn meysydd fel addysgu."

Sicrhau cymwysterau 'perthnasol'

Yn ôl bwrdd arholi CBAC, mae 'na rai newidiadau ar droed i'r cwrs TGAU.

"Mae CBAC yn cynllunio ac yn darparu cymwysterau ac asesiadau yn unol â gofynion Cymwysterau Cymru, ac fel corff dyfarnu, nid ydym yn hyrwyddo un pwnc yn fwy na phwnc arall," meddai llefarydd.

"I gefnogi cwricwlwm newydd Cymru, yn ddiweddar mae Cymwysterau Cymru wedi lansio eu menter Cymwys ar gyfer y Dyfodol, sy'n cynnwys TGAU ar ei newydd wedd, gan gynnwys cymwysterau Cymraeg Iaith, a fydd yn cael ei addysgu o fis Medi 2025.

"Fel y prif gorff dyfarnu yng Nghymru, bwriadwn fod yn weithgar iawn wrth drafod hyn i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn aros yn berthnasol ac yn galluogi dilyniant y dysgwyr."