1,000 yn llai yn astudio cyrsiau prifysgol drwy'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
seremoni raddioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bron i 1,000 yn llai o fyfyrwyr prifysgol wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ystadegau'r llywodraeth.

Dangosodd ymchwil gan Newyddion 9 fod 6,870 o fyfyrwyr yn astudio o leiaf peth o'u cyrsiau drwy'r Gymraeg yn 2016/17, o'i gymharu â 7,780 flwyddyn ynghynt.

Mae ffigyrau'n dangos bod cwymp sylweddol wedi bod ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle roedd dros 1,000 yn llai na'r flwyddyn gynt yn astudio drwy'r Gymraeg.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod am gael "eglurder pellach" am y cwymp.

'Darlun amrywiol'

Un o'r amcanion wrth sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) saith mlynedd yn ôl oedd codi'r nifer sy'n astudio'n Gymraeg yn y prifysgolion.

Ond mae'r ffigyrau diweddara'n dangos bod llai yn gwneud hynny - er ei bod hi'n ddarlun amrywiol.

Ym Mhrifysgol y Drindod roedd cwymp yn y nifer oedd yn astudio yn y Gymraeg o 4,255 i 3,215 o fewn blwyddyn.

Mae'r brifysgol yn dweud eu bod nawr yn paratoi cyrsiau "cyffrous" fydd yn cynnig mwy o opsiynau i fyfyrwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dweud ei bod y data yn dangos darlun cymysg

'Her sylweddol'

Mewn datganiad dywedodd y CCC eu bod yn "cydweithio gyda'r prifysgolion i gynyddu ac ehangu'r ddarpariaeth a'r dewis sydd ar gael i fyfyrwyr".

"Her sylweddol i'r prifysgolion yw sicrhau bod myfyrwyr yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a bod cynifer â phosibl o fyfyrwyr yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw'n "gweithio'n agos" gydag ysgolion, consortia rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol eraill i "gynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg".

Bydd y CCC nawr yn paratoi adroddiad ar y data, i'w gwblhau erbyn yr hydref, ac yn cynnig argymhellion i'w hystyried gan y prifysgolion, Llywodraeth Cymru a'r Coleg.