Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Rygbi Caerdydd 42-14 Zebre
- Cyhoeddwyd
Rygbi Caerdydd oedd yn fuddugol ar Barc yr Arfau nos Wener yn eu gêm olaf y tymor hwn.
Gyda dau gais gan Owen Lane ac un yr un i James Ratti a Lloyd Williams, roedd hi'n hanner cyntaf hawdd i'r tîm cartref.
Ar yr hanner, doedd dim sôn am gais i'r gwrthwynebwyr gyda Rygbi Caerdydd ar y blaen o 35-0.
Ond, fe daniodd pethau i'r Eidalwyr yn yr ail hanner gydag Erich Cronje a Maxime Mbanda yn llwyddo i groesi'r llinell.
Daeth cais fach arall i Gaerdydd gan Max Llewellyn cyn y chwiban olaf a'r sgôr terfynol yn 42-14. Pwynt bonws i Rygbi Caerdydd hefyd.
Wedi tymor digon heriol, maen nhw'n gorffen yn y 13eg safle ar y tabl.