Dyn 19 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
A55Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y lôn ddwyreiniol, rhwng cyffyrdd Dwygyfylchi a Chonwy

Mae dyn 19 oed wedi marw wedi i'w gar fod mewn gwrthdrawiad â lori ar y A55 ger Conwy yn gynnar fore Sul.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad o gwmpas 01:35 ar lôn ddwyreiniol y ffordd, rhwng Cyffordd 16a, Dwygyfylchi a Chyffordd 17, Conwy.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu'r dyn a fu farw.

Bu'n rhaid cau'r lôn ddwyreiniol tan ganol bore Su tra bo'r llu'n cynnal eu hymchwiliadau, gan olygu bod gyrwyr wedi cael eu dargyfeirio hyd at 43 milltir ar yr A470 a'r A5 trwy Fetws-y-Coed.

Car Vauxhall Astra gwyn a lori HGV Volvo melyn oedd yn y gwrthdrawiad.

Mae'r Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd wedi diolch defnyddwyr y ffordd "am eu hamynedd a'u dealltwriaeth" tra bo'r ffordd ar gau.

Mae'r llu'n gobeithio clywed, meddai, gan "unrhyw un allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu... oedd yn teithio rhwng Bangor a lleoliad y digwyddiad o gwmpas adeg y gwrthdrawiad".

Ychwanegodd: "Rwy'n arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un allai fod â lluniau dashcam o'r naill gerbyd neu'r llall ar y ffordd."

Pynciau cysylltiedig