Protest yn erbyn cynnydd costau parcio Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae protest wedi'i chynnal ym Mae Colwyn yn erbyn cynlluniau i gynyddu costau parcio ar bromenâd y dref.
O ddydd Llun ymlaen bydd prisiau yn cynyddu o hanner can ceiniog am awr i leiafswm o £3.70.
Yn ôl Cyngor Conwy mae posib parcio am ddim yno rhwng pedwar o'r gloch y prynhawn a deg o'r gloch y bore.
Ond mae grŵp nofio lleol yn honni bydd y newidiadau yn "wahaniaethol" ac yn debygol o rwystro rhai rhag defnyddio'r cyfleuster.
'Mynd i gael effaith'
Rhwng misoedd Mai a Medi bydd yr isafswm tâl yn cynyddu i £3.70 am hyd at bedair awr, yn hytrach na'r gyfradd bresennol o awr am 50c, dwy awr am £1, pedair awr am £2.50, neu dros bedair awr am £3.50.
Ond penderfynodd y grŵp nofio Bay Blue Bits, sydd â 180 o aelodau, gynnal protest yn erbyn y cynlluniau brynhawn Sul.
Dywedodd Moira Cavanagh, sy'n aelod o'r grŵp nofio: "Rydym yn teimlo bod y rheol hon yn wahaniaethol gan fod yna lawer o bobl sy'n cael trafferthion symudedd naill ai'n cerdded neu'n nofio ger y prom, ac nid yw llawer ohonynt yn gymwys ar gyfer Bathodyn Glas.
"Dyma eu hunig gyfle i fynd allan i'r awyr iach a gwella'u llesiant. Gan fod y cyngor i fod i hybu llesiant, teimlwn fod hyn yn mynd i gael yr effaith groes gan y bydd llawer o bobl yn cael eu rhwystro gan y codiad ac yn methu ag ymarfer corff.
"Maen nhw'n dweud y byddwn ni'n cael pedair awr am £3.70. Wel, nid oes angen pedair awr arnom. Dim ond awr da ni angen.
"Mae £3.70 yn iawn i dwristiaid. Mae'n berffaith iddyn nhw. Pe bawn i'n teithio i Fae Colwyn heddiw, byddwn yn ddigon hapus i dalu £3.70 i barcio ar y blaen. Ond dim ond taith gerdded fer y mae'r rhan fwyaf o bobl leol eisiau."
Ymateb Cyngor Conwy
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy: "Mae parcio am ddim ar y Promenâd o hyd cyn 10:00 ac ar ôl 16:00 drwy'r flwyddyn.
"Mae'r taliadau parcio ar bromenâd Bae Colwyn yn newid er mwyn dod â nhw'n unol â thaliadau parcio ar gyfer ardaloedd eraill, gan sicrhau agwedd deg a chyfiawn at daliadau parcio ar draws y fwrdeistref sirol. Daw'r newidiadau i rym ar 9 Mai 2022.
"Gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio am ddim mewn unrhyw gilfach mewn ardaloedd talu ac arddangos ar y stryd fel y promenâd (ac eithrio cilfachau bysus/llwytho).
"Mae tocyn blynyddol ar gael ar gyfer Promenâd Bae Colwyn am £65.50 y flwyddyn."