Man croesi ffordd 'yn peryglu bywydau' medd rhieni

  • Cyhoeddwyd
Car ar y slipffordd i'r A494
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod gyrwyr dan yr argraff eu bod mewn ardal 50mya yn lle un 30mya

Mae rhieni'n galw am welliannau diogelwch yn ardal cyffordd "beryglus" sy'n cael ei chroesi'n rheolaidd gan blant i ac o'r ysgol.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae arwyddion cyfyngiadau cyflymder dryslyd yn achosi gyrwyr i oryrru ar hyd slipffordd sy'n ymuno â lôn ddwyreiniol yr A494 yn Ewlo, yn Sir Y Fflint.

Dywed Emma Jones bod rhaid cerdded gyda'i merch i'r ysgol uwchradd bob bore i sicrhau ei bod hi'n ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd yna welliannau yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

'Sawl achos o gael a chael'

Fe ddechreuodd Ms Jones ymgyrch am welliannau diogelwch wyth mlynedd yn ôl.

"Mae hi mor beryglus a phrysur rhwng wyth a naw o'r gloch y bore felly dwi'n teimlo bod angen mynd â hi [ei merch] i'r ysgol gyda ffrind am ei bod mor brysur."

Dywed Ms Jones ei bod wedi cysylltu gyda nifer o wleidyddion, y cyngor ac Asiantaeth Cefnffyrdd Cymru ynghylch ei phryderon.

Mae'r pryderon hynny wedi dwysáu yn yr wythnosau diwethaf, meddai, wedi i gerbyd, wrth ddechrau teithio ar y slipffordd, daro rhwystrau diogelwch ble mae pobl yn sefyll wrth aros i groesi'r ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Jones yn poeni am ddiogelwch ei merch wrth gerdded i ac o'i hysgol uwchradd

"Pan gafodd y rhwystr yna ei dynnu o 'na dair wythnos yn ôl ro'n i'n meddwl, 'rhaid i mi wneud rhywbeth' a dyna pryd wnes i gysylltu efo BBC Cymru."

Dywed Ms Jones bod disgwyl i gerbydau deithio hyd at 30mya wrth gyrraedd y slipffordd, ond mae arwyddion ger ble mae cerddwyr yn croesi yn nodi mai 50mya yw'r cyfyngiad cyflymder wrth gyrraedd yr A494. Yn sgil hynny, mae llawer o yrwyr yn cyflymu cyn cyrraedd y slipffordd.

Ychwanegodd bod cannoedd o blant Ewlo angen croesi'r rhan yma o'r ffordd i fynd i ac o'r ysgol, ac mae hi'n poeni nad ydyn nhw bob tro'n canolbwyntio wrth wneud.

"Mae sawl achos o gael a chael wedi bod," meddai.

'Go brin y byddwn ni'n ei chroesi'

Mae gefeilliaid, Trish Elliott a Pauline Hickman, sy'n byw yn yr ardal am hanner canrif yn rhannu pryderon Emma Jones.

"Fyswn i ddim yn ei chroesi - byddwn ni ddim yn ei chroesi, go brin," meddai Ms Eliott.

"Sut yn y byd does dim plentyn wedi ei ladd, wn i ddim."

Dywedodd Ms Hickman: "Mae'n ofnadwy. Mae'n droad dall ac maen nhw'n saethu i fyny."

Mae'r gefeilliaid hefyd yn ofni y bydd yna ddamwain cyn y bydd yna unrhyw welliannau diogelwch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pauline Hickman (chwith) a'i gefaill Trish Eliott hefyd yn poeni bod cerbydau ddim yn arafu'n briodol

Cyfeiriodd Emma Jones at gyffordd cyfagos ar yr A494, yn Queensferry sydd â rhodfeydd uchel a goleuadau traffig.

Byddai mesurau tebyg, meddai, yn sicrhau bod pobl yn croesi'r gyffordd yn Ewlo'n ddiogel.

Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy'n gyfrifol am y ffordd, ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn datblygu cynllun mewn ymateb i'r mynd a dod gan gerddwyr a seiclwyr yn y fan yma y flwyddyn gyfredol hon."

Pynciau cysylltiedig