Morgannwg yn fuddugol yn erbyn Sir Caerlŷr

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Morgannwg yn dathluFfynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Morgannwg yn dathlu'r fuddugoliaeth yng Ngerddi Sophia

Mae Morgannwg wedi sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r tymor drwy drechu Sir Caerlŷr o chwe wiced.

Gyda'r ymwelwyr wedi gosod targed o 150 rhediad i ennill, cyrhaeddwyd y nod gan ddarfod ar 153 am bedair wiced, ar y pedwerydd diwrnod o chwarae.

Bu i 36 rhediad David Lloyd sefydlu'r dechrau perffaith er i gapten Caerlŷr, Callum Parkinson (3-38) wneud ei orau i arafu cynnydd y tîm cartref.

Ond roedd 40 rhediad Sam Northeast yn ddigon i groesi'r trothwy 25 munud i fewn i'r sesiwn olaf.

Bydd gêm nesaf Morgannwg oddi cartref yn erbyn Durham ddydd Iau, 12 Mai.

Pynciau cysylltiedig