Taflu achos ymgyrchydd iaith dros ddirwy Saesneg o'r llys

  • Cyhoeddwyd
Toni SchiavoneFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Toni Schiavone gael dirwy barcio o £70

Mae'r achos yn erbyn ymgyrchydd iaith sydd yn gwrthod talu dirwy barcio am ei bod yn uniaith Saesneg wedi cael ei daflu o'r llys.

Fe wnaeth Toni Schiavone dderbyn dirwy o £70 am dorri rheolau parcio yn Llangrannog ar 16 Medi 2020.

Yn ôl Mr Schiavone roedd y ddirwy yn uniaith Saesneg ac fe wnaeth y cwmni wrthod cyflwyno copi Cymraeg ohoni.

Fe wnaeth cwmni One Parking Solutions fynd â Mr Schiavone i'r llys am wrthod talu'r ddirwy, er mwyn adennill y gost.

Cafodd yr achos ei daflu o'r llys yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth ddydd Mercher am nad oedd cynrychiolydd o'r cwmni yn bresennol.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gefnogi Mr Schiavone

Roedd Mr Schiavone wedi gofyn i'r llys i sicrhau fod pob gohebiaeth yn Gymraeg, gan gynnwys copi o'r ddirwy.

Ddydd Mercher fe wnaeth Mr Schiavone, sef llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymddangos yn y llys. Roedd aelodau o'r gymdeithas yno hefyd yn ei gefnogi.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarth wrth y llys mai cyfrifoldeb One Parking Solutions oedd cyflwyno tystiolaeth fod Mr Schiavone wedi torri'r rheolau.

Taflodd yr achos o'r llys gan nad oedd cynrychiolydd o'r cwmni yno - ni wnaethon nhw gyflwyno rheswm dros hynny na gofyn i aildrefnu'r achos.

Galw am newid yn y sector breifat

Wedi'r achos, dywedodd Mr Schiavone: "Fe wnes i ofyn dro ar ôl tro am yr hysbysiad cosb yn Gymraeg, a byddwn i wedi talu'r ddirwy, ond yn lle hynny penderfynodd One Parking Solutions fynd â fi i'r llys.

"Am bod y llys wedi gofyn iddyn nhw gyfieithu copi o'r hysbysiad cosb fe wnaethon nhw, ond cymerodd hi achos llys iddyn nhw wneud - a wnes i ddim derbyn yr hysbysiad swyddogol yn Gymraeg o gwbl.

"Gan iddyn nhw orfod cyfieithu copi'r hysbysiad cosb does dim byd yn eu rhwystro nawr rhag cyflwyno hysbysiadau cosb yn Gymraeg yn y dyfodol."

Dywedodd bod yr achos yn dangos fod angen newid y Mesur Iaith Gymraeg i gynnwys y sector breifat.

"Mae cwmnïau fel hyn yn gallu gwneud pethau yn Gymraeg, ond dim ond os oes gorfodaeth gyfreithiol iddyn nhw wneud. A dim ond un o nifer o gwmnïau preifat sy'n rhedeg meysydd parcio yw hwn.

"Mae dros ddeng mlynedd ers i'r Mesur Iaith fod mewn lle, ac mae gweithdrefn y Safonau wedi gwneud gwahaniaeth yn y sector cyhoeddus - mae mwy o bobl yn gallu ac yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg eu cynghorau ac yn y blaen. Felly pryd gawn ni weld yr un newid yn y sector preifat?"